Sioe Trenau Bach
[delwedd: Postar Trenau Bach 2013]
Postar Trenau Bach 2013
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lechi Cymru dros yr hanner tymor am ddiwrnod o godi stêm yn y Sioe Trenau Bach.
Bydd digonedd o weithgareddau i’w mwynhau gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injans stêm a threnau bychain. Bydd arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol, ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun yn cael eu harddangos – o injans lled 00mm hyd at 32mm. A chofiwch ddod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant!
Eleni hefyd bydd cyfle i fwynhau sesiynau stori ac arddangosiadau o'r inclen cludo llechi ym Mharc Padarn - y ddau beth i'w cynnal ar ddydd Sadwrn a Dydd Sul 16 a 17 Chwefror!
Dyma gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau arddangosiadau gweithiol - paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, a diwrnod allan ardderchog i’r teulu cyfan!
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau