Amgueddfa Lechi Cymru
Sioe Trenau Bach
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lechi Cymru am ddiwrnod o godi stêm yn y Sioe trenau Bach dros hanner tymor.
Bydd digon o weithgareddau i’w mwynhau yn ystod y sioe rhwng 18 a 21 Chwefror (10am - 4pm), yn cynnwys reidiau am ddim i blant ar injans stêm a threnau bychain.
Gydag arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol, ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun yn cael eu harddangos - o injans lled 00mm hyd at 32mm - mae yna rywbeth i bawb yn y digwyddiad blynyddol cyffrous hwn.
Injans mawr, bach, rhai go iawn a modelau - bydd pob math ar ddangos yma, a pheidiwch ag anghofio dod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac profi i blant!
Eto eleni byddwch yn gallu gweld ymddangosiad arbennig y Brush Battery Locomotive, injan wedi’i bweru â batri sy’n dyddio ‘nol i’r Rhyfel Mawr.
Fe’i adeiladwyd ym 1917 ac fe’i defnyddiwyd mewn ffatri nwy mwstard. Credir mai dim ond tri ohonynt a gynhyrchwyd erioed. Gweithiodd yn Chwareli Votty a Bowydd ym Mlaenau Ffestiniog, a chwarel Wincilate yn Aberllefenni, ond daeth ei fywyd gwaith i ben ym 1983.
Cyflwynwyd y Brush Battery Locomotive yn rhodd i’r amgueddfa eleni. Bu’n rhaid gweithio’n galed i adfer y locomotif, sy’n un o sêr y Sioe Rheilffyrdd Bychain. Gellir ei weld ochr yn ochr ag injans eraill yr amgueddfa, yn cynnwys injan Chwarel Hunslet, Dorothea y model wrth raddfa o bot coffi a nifer o osodiadau modelau rheilffyrdd eraill.
Mae gan Amgueddfa Lechi Cymru ddiddordeb byw mewn treftadaeth rheilffyrdd. Roedd rheilffyrdd cul yn sylfaenol ar gyfer gweithredu’r chwareli, ac mae casgliadau’r amgueddfa’n cynnwys yr injan stem UNA.
Mae’r Sioe Rheilffyrdd Bychain yn gyfle gwych i bobl o bob oed i fwynhau nifer o arddangosiadau gweithiol a llonydd, yn cynnwys cyfraniadau gan glybiau rheilffyrdd lleol fel Bae Colwyn, De Sir Gaernarfon, Wrecsam a thu hwnt!
Paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, ac yn ddiwrnod allan ardderchog ar gyfer y teulu!
Gweld digwyddiadau i gyd yn Amgueddfa Lechi Cymru
Hafan Amgueddfa Lechi Cymru
Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau
