Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Saturnalia

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 11 Rha 2010, 11am - 4pm

[delwedd: ]

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Ymunwch â’r hwyl wrth i ni ddathlu gwyl Rufeinig Saturnalia ochr yn ochr â’r Nadolig yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru - Sadwrn 11 Rhagfyr.

Ymunwch â ni ar daith Nadolig drwy’r gorffennol, gan edrych ar sut y dathlwyd yr ?yl gan y Rhufeiniaid, yn Oes Fictoria a’r Canol Oesoedd a hyd yn oed yn y 70au! Gyda gweithgareddau ym mhob oes, o rolio canhwyllau i wneud cadwynau papur.

Dewch i brofi gwyl aeaf unigryw'r Rhufeiniaid o 11.00am i 4.00pm.

Mwynhewch ddathliadau’r Nadolig yn yr Amgueddfa, cyn camu allan i’r ardd Rufeinig llawn eira ac yn ôl mewn amser i Saturnalia! Mae’n bosibl y cewch syndod o weld faint o draddodiadau Saturnalia sy’n debyg i’n dathliadau ni dros yr wyl yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gwyl Rufeinig a ddathlwyd ym mis Rhagfyr oedd Saturnalia ac mae’n rhannu nodweddion gyda’n dathliadau Nadoligaidd ni heddiw yn cynnwys addurniadau, anrhegion, gwleddoedd a llawer o hwyl.

Helpwch i addurno’r coed yn ysbryd Saturnalia, ac mae croeso cynnes yn disgwyl amdanoch gyda gwin gaeaf a mins peis! (codir tâl bach),

Roedd Saturnalia yn adeg i roi anrhegion i ffrindiau a’r teulu, yn union fel y Nadolig. Yn ystod yr wyl, nid oedd unrhyw un yn gweithio ac roedd popeth wyneb i waered, gyda chaethweision yn eistedd gyda’u meistri ac yn rhoi gorchmynion iddyn nhw hyd yn oed!

Roedd pob teulu yn penodi ‘Arglwydd Anrhefn’, ac roedden nhw’n gallu gwneud pob math o ddrygioni yn y teulu heb gael stwr! Ai dyma sy’n digwydd yn eich cartref chi dros y Nadolig?

Fel y byddwn ni’n gosod addurniadau a goeluadau ar goeden Nadolig, byddai’r Rhufeiniaid yn addurno coed yn yr awyr agored gyda sêr, heuliau a wynebau’r Duw Ianws. Roedden nhw’n addurno eu cartrefi gyda chanhwyllau a chelyn hefyd, yn union fel y gwnawn ni heddiw.

Felly, dewch i fwynhau ysbryd yr wyl gyda’r Rhufeiniad. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda neu, fel y byddai’r Rhufeiniaid yn ei ddweud, “Io bona Saturnalia”!