Ffair Nadolig
Mae Ffair Nadolig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfle gwych i ddarganfod yr Amgueddfa ar ôl iddi nosi.
Y Nadolig hwn, bydd yr Amgueddfa yn agor ei drysau tu hwnt i oriau agor swyddogol ar ddydd Mawrth 9 a 16 o Ragfyr (10:00am-8:00pm).
Dewch i wrando ar gerddoriaeth yr ?yl, canu carolau a mwynhewch weithgareddau i’r holl deulu neu ymlaciwch dros wydr twym o win gaeaf a mins pei.
Bydd siop yr Amgueddfa hefyd ar agor tan 8.00pm yn gwerthu amryw o anrhegion unigryw.
Tra bydd yr Orielau i gyd ar agor tu fewn i’r Amgueddfa, bydd Brenhines yr Iâ (9 Rhagfyr) a Siôn Barrug (16 Rhagfyr) yn diogelu’r cnau castan gynnes yn y cyntedd.
Ymysg hyn oll, fe fydd 13 math o stondin crefft yn gwerthu hetiau ac esgidiau babanod; gemwaith; crochenwaith; bagiau lliw; printiau; paentiadau a llawer mwy.
Yn ogystal, bydd Ruth Morgan o Cbeebies a Bobinogs yn arwyddo copïau o’i llyfr Sglod and Chips, bydd cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn orielau Hanes Naturiol o 12.00pm - 7.30pm a gweithgareddau i’r holl deulu yn Oriel Ddarganfod Glanely.
Os ydych chi’n chwilio am gynhesrwydd, dewch i fwynhau gwin cynnes neu gawl yng nghaffi’r Amgueddfa.
Bydd Côr Ysgolion Cynradd Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro a Phres Symffonig yn perfformio o 5.00pm -7.30pm ar y ddwy noson, tra bydd Côr yr Amgueddfa yn perfformio ar 16 Rhagfyr am 4.30pm.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





