Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau
Pawb / Am ddim

Ffair Nadolig

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 a 16 Rha 2008, 10am - 8pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Christmas Fayre
Christmas Fayre
Christmas Fayre

 

Mae Ffair Nadolig Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gyfle gwych i ddarganfod yr Amgueddfa ar ôl iddi nosi.

 

Y Nadolig hwn, bydd yr Amgueddfa yn agor ei drysau tu hwnt i oriau agor swyddogol ar ddydd Mawrth 9 a 16 o Ragfyr (10:00am-8:00pm).

 

Dewch i wrando ar gerddoriaeth yr ?yl, canu carolau a mwynhewch weithgareddau i’r holl deulu neu ymlaciwch dros wydr twym o win gaeaf a mins pei.

 

Bydd siop yr Amgueddfa hefyd ar agor tan 8.00pm yn gwerthu amryw o anrhegion unigryw.

 

Tra bydd yr Orielau i gyd ar agor tu fewn i’r Amgueddfa, bydd Brenhines yr Iâ (9 Rhagfyr) a Siôn Barrug (16 Rhagfyr) yn diogelu’r cnau castan gynnes yn y cyntedd.

 

Ymysg hyn oll, fe fydd 13 math o stondin crefft yn gwerthu hetiau ac esgidiau babanod; gemwaith; crochenwaith; bagiau lliw; printiau; paentiadau a llawer mwy.

 

Yn ogystal, bydd Ruth Morgan o Cbeebies a Bobinogs yn arwyddo copïau o’i llyfr Sglod and Chips, bydd cyfle i gwrdd â Siôn Corn yn orielau Hanes Naturiol o 12.00pm - 7.30pm a gweithgareddau i’r holl deulu yn Oriel Ddarganfod Glanely.

 

Os ydych chi’n chwilio am gynhesrwydd, dewch i fwynhau gwin cynnes neu gawl yng nghaffi’r Amgueddfa.

 

Bydd Côr Ysgolion Cynradd Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro a Phres Symffonig yn perfformio o 5.00pm -7.30pm ar y ddwy noson, tra bydd Côr yr Amgueddfa yn perfformio ar 16 Rhagfyr am 4.30pm.