The Attraction of Onlookers: Aberfan - An Anatomy of a Welsh Village
Ddeugain mlynedd wedi trychineb Aberfan, cafodd yr artist Americanaidd uchel ei barch Shimon Attie gais gan gyfaill iddo yng Nghymru i greu arddangosfa i nodi’r achlysur.
Ar ôl treulio pum mis yn gweithio a byw yn y pentref, creodd The Attraction of Onlookers: Aberfan – an Anatomy of a Welsh Village.
Mae’r fideo yn cynnwys trigolion lleol ac yn cynrychioli’r pentref fel ag y mae heddiw. Mae’n rhoi llais i bobl Aberfan ac yn adlewyrchu eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y presennol a’r dyfodol.
Gwelwyd y gosodwaith fideo manylder uwch, pum sianel am y tro cyntaf yn Efrog Newydd ym mis Medi 2008 a bydd i’w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 6 Rhagfyr a 22 Chwefror 2009.
Mae’r arddangosfa yn weledigaeth ffres a blaengar o Aberfan sy’n cyfrebynnu â’r archif teimladwy a dirgrynol o ddelweddau sy’n bodoli eisoes.
Gwrando ar y pentref
Ar 21 Hydref 1966, llithrodd tomen gwastraff glo lawr ochr y mynydd uwchben Aberfan, gan gladdu ei unig ysgol gynradd a nifer o dai. O ganlyniad, bu farw 116 o blant a 28 o oedolion.
Mae The Attraction of Onlookers yn archwilio’r berthynas rhwng lle, atgofion a hunaniaeth.
Dechreuodd yr artist ei ddehongliad drwy wrando ar drigolion y pentref. Y canlyniad yw portread o Aberfan a’i bobl sy’n wahanol i unrhyw bortread blaenorol arall ohonynt.
Mae gwaith Attie yn ceisio cyfoethogi ein tybiaethau a’n trafodaethau am Aberfan a’i bwysigrwydd hanesyddol, gan herio ein disgwyliadau o’r hyn y mae bod yn ‘ddioddefwr’ neu’n ‘oroeswr’ yn ei olygu.
Mae’n ein gwahodd i ystyried elfennau croes ffyddlondeb i’r gorffennol, a ffyddlondeb i’r presennol a’r dyfodol.
Edrych tua’r dyfodol
Ni allai’r pentref ddianc o lygad y cyhoedd wedi’r trychineb ym 1966. Pan fydd pobl yn meddwl am Aberfan, byddant yn meddwl am yr un golled drychinebus hon.
Mae wedi dioddef hunaniaeth sy’n seiliedig ar yr un digwyddiad hwn dros bedwar degawd yn ôl. Cafodd y lluniau a dynnwyd y diwrnod trychinebus hwnnw eu hailddangos yn ddiddiwedd gan ei gwneud hi’n anoddach i’r pentref symud ymlaen ac edrych tua’r dyfodol.
Fe wnaeth sylw’r camerâu a’r negeseuon di-ri o gydymdeimlad cwbl ddealladwy gan y cyhoedd ymestyn y galar, gan adael Aberfan yn stond mewn gofod ac amser.
Mae The Attraction of Onlookers yn rhan o daith barhaus Aberfan, ar ôl 40 mlynedd, i fod yn bentref tebyg i bentrefi eraill Cymru unwaith eto.
Arsylwi Aberfan – Ddoe a Heddiw
Most of them are still living in a state of shock, in a village which remains an open wound. The aftertaste of the Macabre which still affects the village is strengthened further by its attraction for sightseers.
Darn o The Village that Lost its Children, Laurie Lee (1967)
Life stops for a moment
and refuses to stay still.
I live in a different time from the world.
I see them watching me.
Here, not here.
Now, not now.
Cerdd o The Attraction of Onlookers, gan Gwyneth Lewis a Shimon Attie (2006)
Bydd y llyfr The Attraction of Onlookers, a gyhoeddir gan Parthian, ar gael yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod yr arddangosfa, neu drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Mae The Attraction of Onlookers yn un o blith nifer o arddangosfeydd gan artistiaid sy’n byw ac yn gweithio nawr. Mae’n rhan o ddyhead Amgueddfa Cymru i hyrwyddo mwy o gelf gyfoes mewn ardaloedd neilltuedig yn yr Amgueddfa.

Nôl i dudalen cyntaf Digwyddiadau





