Profiad gwaith
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr 14-18 oed. Mae lleoliadau ar gael yn yr adrannau canlynol:
- Archeoleg a Niwmismateg*
- Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
- Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol*
- Adeiladau
- Cadwraeth*
- Dogfennaeth
- Ystadau
- Digwyddiadau
- Cyllid
- Daeareg
- Uned yr Adeiladau Hanesyddol
- Adnoddau Dynol
- TGCh
- Addysg (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)
- Addysg (Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru)†
- Llyfrgell
- Marchnata
- Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
- Amgueddfa Lechi Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Amgueddfa Wlân Cymru
- Ffotograffiaeth
- Cyhoeddiadau
- Manwerthu
- Bywyd Gwerin†
- Gwasanaethau i ymwelwyr (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)
- Gwasanaethau i ymwelwyr (Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru)†
* Myfyrwyr chweched dosbarth yn unig
† Cymraeg yn hanfodol
Sut i ymgeisio
Mae'r broses ymgeisio yn cael ei gweinyddu gan Gyrfa Cymru Mae gan Gyrfa Cymru gronfa ddata o'r holl leoliadau posibl a gallwch edrych arni yn yr ysgol neu yn eich canolfan yrfaoedd leol.
Rhaid archebu lleoliadau ar y gronfa ddata a bydd eisiau i chi lenwi ffurflen gais (ar gael yn eich ysgol neu drwy Gyrfa Cymru). Bydd yr adran berthnasol yn penderfynu a allant eich derbyn ar y dystiolaeth a rowch yn y ffurflen gais.
Cofiwch bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd cyn i chi gychwyn ar unrhyw leoliad ac nad oes sicrwydd o gael lleoliad nes bod cadarnhad wedi dod oddi wrth Amgueddfa Cymru. Oherwydd y diddordeb mawr mewn gwneud profiad gwaith yn Amgueddfa Cymru yn anffodus ni allwn gynnig lleoliad i bawb. Mae misoedd yr haf yn arbennig o boblogaidd gyda gormod o bobl yn gofyn am le. Mae ffactorau eraill hefyd yn cyfyngu ar y lleoliadau sydd ar gael megis amser y staff a hyfforddiant.
Danfonwch eich cwestiynau am brofiad gwaith at Claire Thomas, Cydlynydd Profiad Gwaith.







