Amgueddfa Cymru

Lleoliadau gwaith

Lleoliadau gwaith a hyfforddi

Gall lleoliad gwaith gyd-fynd â'ch astudiaethau a darparu i chi flas cynnar o'r dyfodol ymarferol yn yr alwedigaeth rydych wedi'i dewis.

Mae lleoliadau gwaith yn ffordd wych i ennill profiad wrth wneud y swydd, archwilio posibiliadau gyrfaol, dangos menter a chyfrifoldeb a datblygu eich sgiliau rhyngbersonol. Bob blwyddyn mae gan Amgueddfa Cymru nifer fach o leoliadau sy'n gysylltiedig â chyrsiau ond yn anffodus mae'r galw wastad yn fwy na'r ddarpariaeth. Mae llwyddiant y ceisiadau'n dibynnu ar baru clir rhwng y projectau neu'r gwaith sydd ar gael yn ein hadrannau ac amcanion cwrs yr ymgeisydd.

Gyda'n saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru mae gan ein hadrannau lawer o wybodaeth ac maent yn berthnasol i lawer o bynciau academaidd gan gynnwys y canlynol:

  • Archeoleg a Niwmismateg
  • Celf
  • Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol
  • Cadwraeth
  • Daeareg
  • Hanes
  • Diwydiant

Mae lleoliadau bob tro'n cael eu cytuno am gyfnod penodol o amser gydag ymroddiad wythnosol lleiafsymiol sydd fel arfer yn ystod oriau swyddfa dydd Llun-Gwener. Yr oed lleiaf i ymgeisio yw 18 ac nid oes cyfyngiad uchaf ar oedran.

Os ydych yn llwyddiannus trefnwn gyfweliad anffurfiol i wneud yn siŵr bod y ddwy ochr yn fodlon. Cymerir geirdaon ar gyfer pob rôl wirfoddoli.

Sut i ymgeisio

Ysgrifennwch atom gan fanylu ar y canlynol:

  • yr hyn rydych yn gobeithio ei gael o'r lleoliad
  • beth yw'ch prif feysydd o ddiddordeb
  • pa adran hoffech fod ynddi
  • pa gwrs rydych yn ei astudio
  • pa ddyddiadau rydych ar gael

Danfonwch y wybodaeth hon at Sian Layton, Cydlynydd Gwirfoddoli fydd yn ailgyfeirio eich cais at yr adran berthnasol:

Sian Layton, Cydlynydd Gwirfoddoli
Amgueddfa Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP
Ebost Sian

Noder: Os na allwn ddod o hyd i leoliad gwaith i chi beth am edrych ar ein hadran wirfoddoli? Gallwch weld ein cyfleon cyfredol neu ymgofrestru i gael rhybudd ebost pan fo rôl newydd yn codi.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.