Gwirfoddoli
[delwedd: Isle Fisher]
Mae gwirfoddolion yn ymwneud â phob math ar broject ledled ein hamgueddfeydd. Bydd rhai o'r rolau'n gofyn am gymorth medrus ond ar gyfer llawer o'n projectau mae dim ond eisiau brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.
Mathau ar gyfleon gwirfoddoli:
Rhaglenni cyhoeddus – gall cyfleon gynnwys arwain sesiynau trin a thrafod neu deithiau tywys gyda'n hymwelwyr yn yr orielau, helpu gyda gweithdai a gweithgareddau ar gyfer pob oed neu ymwisgo mewn gwisg hanesyddol.
Y tu ôl i'r llenni – yn aml dyma'r lle prysuraf lle rydym yn rheoli a chadw a chynnal y casgliadau. Gallwch drefnu a labelu sbesimenau, helpu gyda chatalogio ac archifo, lapio gwrthrychau neu ymchwilio gan ddibynnu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth.
Arall – mae hefyd gyfleon i weithio yng ngerddi Sain Ffagan, mynd drwy arolygon gydag ymwelwyr neu helpu ein timau addysg a gwasanaethau i ymwelwyr.
Beth gewch chi o'r peth?
- Cyfleon i ddatblygu sgiliau a phrofiad o fewn y sector amgueddfaol
- Gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau a chwrdd â phobl newydd sy'n mwynhau'r un peth
- Cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru
- Profiad gwaith a all fod yn gaffaeliad ar eich CV
Sut i gychwyn
Yn gyntaf ewch i Cyfleon Cyfredol i weld a oes un sy'n apelio. Darllenwch y disgrifiad rôl yn fanwl yn enwedig y Gofynion a'r Ymroddiad.
Cyn gwneud cais meddyliwch dros y canlynol:
- eich rhesymau dros wirfoddoli
- sut bydd gwirfoddoli'n gweithio gyda'ch ymroddiadau eraill
Ar ôl penderfynu pa rôl wirfoddoli sy'n gweddu orau i'ch sgiliau a'ch diddordebau llenwch y ffurflen gais. Fel arfer rhoddir gwybod i ymgeiswyr am hynt eu cais drwy ebost.
Os na welwch rywbeth at eich dant gallwch ymgofrestru i dderbyn ebyst fydd yn eich rhybuddio pan fo cyfle newydd yn codi.
Gydag unrhyw ymholiadau cysylltwch â Sian Layton, Cydlynydd Gwirfoddoli.
Ebost Sian
(029) 2057 3190
Cofiwch mai 18 yw'r oed ifancaf i wirfoddoli. Nid oes cyfyngiad uchaf ar oedran.