Rydych chi yn: Hafan > Amdanom ni > Swyddi a Cyfleon > Cymer ran > Gwirfoddoli

Gwirfoddoli

Isle Fisher

Mae gwirfoddolion yn ymwneud â phob math ar broject ledled ein hamgueddfeydd. Bydd rhai o'r rolau'n gofyn am gymorth medrus ond ar gyfer llawer o'n projectau mae dim ond eisiau brwdfrydedd a pharodrwydd i ddysgu.

» Gweld ein Cyfleuon Cyfredol

Mathau ar gyfleon gwirfoddoli:

Rhaglenni cyhoeddus – gall cyfleon gynnwys arwain sesiynau trin a thrafod neu deithiau tywys gyda'n hymwelwyr yn yr orielau, helpu gyda gweithdai a gweithgareddau ar gyfer pob oed neu ymwisgo mewn gwisg hanesyddol.

Y tu ôl i'r llenni – yn aml dyma'r lle prysuraf lle rydym yn rheoli a chadw a chynnal y casgliadau. Gallwch drefnu a labelu sbesimenau, helpu gyda chatalogio ac archifo, lapio gwrthrychau neu ymchwilio gan ddibynnu ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Arall – mae hefyd gyfleon i weithio yng ngerddi Sain Ffagan, mynd drwy arolygon gydag ymwelwyr neu helpu ein timau addysg a gwasanaethau i ymwelwyr.

Beth gewch chi o'r peth?

  • Cyfleon i ddatblygu sgiliau a phrofiad o fewn y sector amgueddfaol
  • Gwneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau a chwrdd â phobl newydd sy'n mwynhau'r un peth
  • Cefnogi gwaith Amgueddfa Cymru
  • Profiad gwaith a all fod yn gaffaeliad ar eich CV

Sut i gychwyn

Yn gyntaf ewch i Cyfleon Cyfredol i weld a oes un sy'n apelio. Darllenwch y disgrifiad rôl yn fanwl yn enwedig y Gofynion a'r Ymroddiad.

Cyn gwneud cais meddyliwch dros y canlynol:

  • eich rhesymau dros wirfoddoli
  • sut bydd gwirfoddoli'n gweithio gyda'ch ymroddiadau eraill

Ar ôl penderfynu pa rôl wirfoddoli sy'n gweddu orau i'ch sgiliau a'ch diddordebau llenwch y ffurflen gais. Fel arfer rhoddir gwybod i ymgeiswyr am hynt eu cais drwy ebost.

Os na welwch rywbeth at eich dant gallwch ymgofrestru i dderbyn ebyst fydd yn eich rhybuddio pan fo cyfle newydd yn codi.

Gydag unrhyw ymholiadau cysylltwch â Sian Layton, Cydlynydd Gwirfoddoli.

Ebost Sian
(029) 2057 3190

Cofiwch mai 18 yw'r oed ifancaf i wirfoddoli. Nid oes cyfyngiad uchaf ar oedran.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.