Croeso a diolch am eich diddordeb mewn gwirfoddoli yn Amgueddfa Cymru.
Mae'n hamgueddfeydd yn llawn o wrthrychau diddorol a phrojectau atyniadol i'ch ysbrydoli a'ch diddanu.
Fel gwirfoddolydd gallwch wneud cyfraniad pwysig. Gall wirfoddoli gynyddu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ar gael yn Amgueddfa Cymru a chyflwyno gwedd newydd ar ein gwaith.
Gall gwirfoddoli gynnwys helpu ymwelwyr i fwynhau trin gwrthrychau yn ein horielau enwog, catalogio sbesimenau y tu ôl i'r llenni gyda staff arbenigol neu gael pridd ar eich dwylo yn ein gerddi hardd, hanesyddol.
Dyma'r casgliadau cenedlaethol sy'n perthyn i bobl Cymru. Felly beth am ymuno â ni i reoli, cadw ac arddangos ein treftadaeth?
Mae pedair ffordd i wneud hyn:
Gwirfoddoli
Rolau ar gael ar gyfer y tymor byr a hir. Ar gyfer oedolion dros 18 oed.
» Mwy o wybodaeth am wirfoddoli
Profiad gwaith
Ar gyfer myfyrwyr ysgol 15-18 oed.
» Mwy o wybodaeth am brofiad gwaith
Lleoliadau gwaith
Gellir gofyn am leoliad fel rhan o gwrs astudio ffurfiol. Ar gyfer myfyrwyr addysg uwch dros 18 oed.
» Mwy o wybodaeth am leoliadau gwaith a hyfforddi
Prentisiaethau
Ar gyfer dysgu wrth wneud y swydd.
» Mwy o wybodaeth am brentisiaethau
Yn fuan byddwch yn gallu chwilio yma am rolau sy'n gweddu i'ch sgiliau a'ch diddordebau ym mhob un o'n hamgueddfeydd a gwneud cais amdanynt.
Ar hyn o bryd mae rhyw 50 o wirfoddolion yn gweithio gyda ni. Fel gwirfoddolydd byddwch yn dysgu sgiliau newydd, rhannu gwybodaeth arbenigol, ehangu'ch diddordeb mewn pwnc penodol ac ennill profiad gwerthfawr a mwynhau ar yr un pryd.










