Amgueddfa Cymru

[delwedd: ]

Cyfarwyddwr Cyffredinol

[delwedd: ]

David Anderson

Blog David Anderson

Wythnos wych

Postiwyd gan David Anderson ar 28 Ionawr 2011

Mae'r wythnos hon wedi bod yn wych. Dydd Mawrth, roedd agoriad swyddogol ein harddangosfa Dazu ac rwyf yn eithriadol o hapus gyda'r cyfan. Mae'r arddangosfa yn hynod o drawiadol, ac mae'n fraint eu bod yma'n Nghymru y tro cyntaf iddyn nhw fod tu allan i Tsieina. Anrhydedd fawr i ni ac i Gymru! Mae'r holl sylw yn y wasg wedi adlewyrchu pwysigrwydd yr arddangosfa ac mae'n wych gweld cymaint o bobl yn dod i'r amgueddfa i'w gweld. Drwy gyd-ddigwyddiad, fe fûm i'n ddigon lwcus i ymweld â Dazu flynyddoedd yn ôl a'u gweld gyda fy llygaid fy hunan. Roedd yn safle anhygoel, ac rwyf yn falch ein bod yn medru rhoi cyfle i bobl Cymru gael blas ohonyn nhw gyda'r arddangosfa yma.

Heblaw am hynny, rwyf wedi bod yn brysur yn cyfarfod gyda phartneriaid gwahanol megis y Fed - Ffederasiwn o Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. Er ein bod eisoes yn gweithio'n agos gyda'n gilydd, credaf y gellid cryfhau'r berthynas a chefais drafodaeth fuddiol gyda'u Llywydd yngl?n â'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi'n gilydd sêl sector, er mwyn sicrhau sector amgueddfaol cryf yma'n Nghymru.

Bûm yn siarad mewn cynhadledd Dehongli Cymru, a hefyd bum yn Wakefield yn sgil fy rôl fel un o Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Cloddio Glo Cenedlaethol yno. Roeddwn yn falch iawn o fedru bod yn symud o gwmpas wythnos yma ar ôl gorfod cymryd tridiau i ffwrdd o'r gwaith yr wythnos ddiwethaf ar ôl imi frifo fy mhen glin. Er ei fod yn boenus, rwyf yn medru cerdded yn awr ond bydd angen physio i gryfhau'r cyhyrau. Ond dyna ni, fel yna mae bywyd weithiau!

Mae hi wedi bod yn brysur ers imi ddechrau yma ond rwyf yn mwynhau. Mae'r staff wedi bod yn eithriadol o groesawgar, ac rwyf yn llawn cyffro yngl?n â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn arbennig felly prosiect ail-ddatblygu Sain Ffagan. Does dim amser i fod wedi fy niflasu ac rwyf yn falch o fod yn rhan o sefydliad sydd yn llawn bywyd.

Eira a'r Alban

Postiwyd gan David Anderson ar 2 Rhagfyr 2010

Penwythnos diwethaf, fe ymwelodd fy ngwraig Josie, fy merch Isobel a fy mab Desmond a Chaerdydd. Rydym yn dal i chwilio am gartef parhaol i'r teulu yma felly roeddwn eisiau cymeryd y cyfle i ddangos Caerdydd iddyn nhw. Prynhawn Sadwrn, fe aethom i Sain Ffagan. Deuthom ar draw staff oedd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i glirio'r eira fel bod y safle yn medru agor i ymwelwyr ar y dydd Sul. Roedd yn parhau i fod yn rhy beryglus i ni fedru fynd o'i gwmpas, ond wrth lwc, roedd digon i'w weld yn Oriel 1. Roedd yn gyfle gwych i ni dreulio amser yn yr orielau ac i mi weld beth sydd yn digwydd i'r safle pan mae eira'n disgyn!

Yna dydd Llun, fe es i fyny i'r Alban ar gyfer nifer o gyfarfodydd. Roedd Caeredin yn edrych yn eithaf llwm ond hefyd yn eithaf rhamantus yn yr eira, er doedd hi ddim yn hawdd teithio o gwmpas oherwydd y tywydd. Roeddwn i fod i gyfrafod Gordon Rintoul, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, ond yn anffodus roedd o'n sal gyda'r ffliw. Serch hynny, fe wnes i gyfarfod nifer o'i staff a chael trafodaethau difyr ynglyn ag addysg, ymgysulltu ac ymgynghori a'r cyhoedd a'r ffordd y mae casgliadau yn cael eu trefnu, ynghyd a hefyd y bygythiad gan lywodraeth San Steffan o ran cyllid y 'portable antiquities scheme'. Rwyf yn fawr obeithio y bydd trafodaethau pellach yn medru sicrhau ein bod yn achub y cynllun pwysig hwn.

Fe wnes i gyfarfod hefyd gyda John Leighton, Cyfarwyddwr Cyffredinol Orielau Cenedlaethol yr Alban. Fe eglurodd sut mae Oriel Dean wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o ddehongli gyda arddangosfeydd dros-dro. Eglurodd hefyd sut mae nhw wedi medru bod yn llai dibynnol ar fenthyciadau o dramor ond drwy hefyd dal i lwyddo i ddennu cynulleidfaoedd eang.
Roedd yr argraff a gefais o fy ymweliad yn un cadarnhaol oedd yn awrgymu y gellid gweithio'n agosach gyda'r Amgueddfeydd Cenedlaethol yn yr Alban a Gogledd iwerddon yn y dyfodol. Fe fydd yn rhaid imi edrych ar yr adroddiadau tywydd cyn trefnu trip arall! Cafodd fy hediad ei ohurio felly bu'n rhaid imi ddal y tren yn ol. Ond, er gwaetha'r tywydd, bu'n drip buddiol a gwerth chweil.

Yn y Swydd

Postiwyd gan David Anderson ar 27 Hydref 2010

[delwedd: David Anderson yn Sain Ffagan]

David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol

Ychydig dros bythefnos yn ôl, fe ddechreuais yn fy swydd yma yn Amgueddfa Cymru. Mae wedi bod yn gychwyn digon prysur wrth i mi fynd ati i gwrdd â staff ym mhob un o'n safleoedd ni, yn ogystal â mynychu dathliadau pen-blwydd Amgueddfa'r Glannau yn bump oed. Mae pawb wedi bod yn arbennig o groesawgar, ac rydw i'n falch iawn o gael y cyfle i arwain sefydliad sydd mor uchel ei barch.

Rydw i wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru ar adeg gyffrous iawn. Mae datblygiadau ar droed i greu Amgueddfa Hanes yn Sain Ffagan ac i droi llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru - disgwylir y bydd y gwaith yma wedi'i gwblhau ym mis Gorffennaf 2011. Dros y misoedd nesaf, byddaf i'n cefnogi cynnydd y projectau yma yn ogystal ag yn cadarnhau'r neges bod Amgueddfa Cymru yn adnodd modern ar gyfer Cymru. Swyddogaeth yr Amgueddfeydd Cenedlaethol yw gwasanaethu pobl Cymru, ac un ffordd o lwyddo i roi'r weledigaeth yma ar waith yw ffurfio partneriaethau diwylliannol. O ystyried sefyllfa ariannol y wlad ar hyn o bryd, mae'r dull yma yn bwysicach fyth.

Wythnos diwethaf, lansiwyd ein dogfen Ysbrydoli Cymru yn y Senedd. Mae dysgu wrth wraidd popeth a wna Amgueddfa Cymru ac mae'r papur yma'n dathlu'r gwaith yma, a'n gweledigaeth ni o fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol. Mae'r llyfryn yn dangos sut mae ein gwaith o ddehongli a chyfathrebu ein casgliadau i bobl Cymru, a'i hymwelwyr, yr un mor bwysig â bod yn geidwaid i gasgliadau'r genedl.

Mae Amgueddfa Cymru yn unigryw ymysg amgueddfeydd cenedlaethol yr Ynysoedd Prydeinig oherwydd ei amrywiaeth o safleoedd a hefyd eu cysylltiad clos gyda'r cymunedau a'r rhanbarthau y maent yn rhan ohonynt. All yr un amgueddfa genedlaethol yn Llundain ddod yn agos at gyflawni hyn.

Mae'r casgliadau hefyd yn anhygoel o amrywiol yn eu hystod eang o ddisgyblaethau - o hanes cymdeithasol i gelf, o wyddoniaeth natur i hanes diwydiannol. Mae hyn yn galluogi'r amgueddfa i apelio i gynulleidfa eang, gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau - sydd eto'n wahanol i rai amgueddfeydd yn Llundain!

Mae'r cyfle i weithio yn un o'r prif amgueddfeydd Celtaidd yn apelio'n fawr imi. A minnau wedi fy ngeni ym Melffast, ac wedi astudio Archaeoleg a Hanes Iwerddon yn yr Alban, rwyf yn falch o gael y cyfle nawr i ddysgu mwy about am ddiwylliant a hanes Cymru.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.