
David AndersonBlog David Anderson
Wythnos wych
Mae'r wythnos hon wedi bod yn wych. Dydd Mawrth, roedd agoriad swyddogol ein harddangosfa Dazu ac rwyf yn eithriadol o hapus gyda'r cyfan. Mae'r arddangosfa yn hynod o drawiadol, ac mae'n fraint eu bod yma'n Nghymru y tro cyntaf iddyn nhw fod tu allan i Tsieina. Anrhydedd fawr i ni ac i Gymru! Mae'r holl sylw yn y wasg wedi adlewyrchu pwysigrwydd yr arddangosfa ac mae'n wych gweld cymaint o bobl yn dod i'r amgueddfa i'w gweld. Drwy gyd-ddigwyddiad, fe fûm i'n ddigon lwcus i ymweld â Dazu flynyddoedd yn ôl a'u gweld gyda fy llygaid fy hunan. Roedd yn safle anhygoel, ac rwyf yn falch ein bod yn medru rhoi cyfle i bobl Cymru gael blas ohonyn nhw gyda'r arddangosfa yma.
Heblaw am hynny, rwyf wedi bod yn brysur yn cyfarfod gyda phartneriaid gwahanol megis y Fed - Ffederasiwn o Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru. Er ein bod eisoes yn gweithio'n agos gyda'n gilydd, credaf y gellid cryfhau'r berthynas a chefais drafodaeth fuddiol gyda'u Llywydd yngl?n â'r posibiliadau ar gyfer y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi'n gilydd sêl sector, er mwyn sicrhau sector amgueddfaol cryf yma'n Nghymru.
Bûm yn siarad mewn cynhadledd Dehongli Cymru, a hefyd bum yn Wakefield yn sgil fy rôl fel un o Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Cloddio Glo Cenedlaethol yno. Roeddwn yn falch iawn o fedru bod yn symud o gwmpas wythnos yma ar ôl gorfod cymryd tridiau i ffwrdd o'r gwaith yr wythnos ddiwethaf ar ôl imi frifo fy mhen glin. Er ei fod yn boenus, rwyf yn medru cerdded yn awr ond bydd angen physio i gryfhau'r cyhyrau. Ond dyna ni, fel yna mae bywyd weithiau!
Mae hi wedi bod yn brysur ers imi ddechrau yma ond rwyf yn mwynhau. Mae'r staff wedi bod yn eithriadol o groesawgar, ac rwyf yn llawn cyffro yngl?n â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn arbennig felly prosiect ail-ddatblygu Sain Ffagan. Does dim amser i fod wedi fy niflasu ac rwyf yn falch o fod yn rhan o sefydliad sydd yn llawn bywyd.
Eira a'r Alban
Penwythnos diwethaf, fe ymwelodd fy ngwraig Josie, fy merch Isobel a fy mab Desmond a Chaerdydd. Rydym yn dal i chwilio am gartef parhaol i'r teulu yma felly roeddwn eisiau cymeryd y cyfle i ddangos Caerdydd iddyn nhw. Prynhawn Sadwrn, fe aethom i Sain Ffagan. Deuthom ar draw staff oedd wedi bod yn gweithio'n eithriadol o galed i glirio'r eira fel bod y safle yn medru agor i ymwelwyr ar y dydd Sul. Roedd yn parhau i fod yn rhy beryglus i ni fedru fynd o'i gwmpas, ond wrth lwc, roedd digon i'w weld yn Oriel 1. Roedd yn gyfle gwych i ni dreulio amser yn yr orielau ac i mi weld beth sydd yn digwydd i'r safle pan mae eira'n disgyn!
Yna dydd Llun, fe es i fyny i'r Alban ar gyfer nifer o gyfarfodydd. Roedd Caeredin yn edrych yn eithaf llwm ond hefyd yn eithaf rhamantus yn yr eira, er doedd hi ddim yn hawdd teithio o gwmpas oherwydd y tywydd. Roeddwn i fod i gyfrafod Gordon Rintoul, Cyfarwyddwr Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban, ond yn anffodus roedd o'n sal gyda'r ffliw. Serch hynny, fe wnes i gyfarfod nifer o'i staff a chael trafodaethau difyr ynglyn ag addysg, ymgysulltu ac ymgynghori a'r cyhoedd a'r ffordd y mae casgliadau yn cael eu trefnu, ynghyd a hefyd y bygythiad gan lywodraeth San Steffan o ran cyllid y 'portable antiquities scheme'. Rwyf yn fawr obeithio y bydd trafodaethau pellach yn medru sicrhau ein bod yn achub y cynllun pwysig hwn.
Yn y Swydd
Ychydig dros bythefnos yn ôl, fe ddechreuais yn fy swydd yma yn Amgueddfa Cymru. Mae wedi bod yn gychwyn digon prysur wrth i mi fynd ati i gwrdd â staff ym mhob un o'n safleoedd ni, yn ogystal â mynychu dathliadau pen-blwydd Amgueddfa'r Glannau yn bump oed. Mae pawb wedi bod yn arbennig o groesawgar, ac rydw i'n falch iawn o gael y cyfle i arwain sefydliad sydd mor uchel ei barch.
Rydw i wedi ymuno ag Amgueddfa Cymru ar adeg gyffrous iawn. Mae datblygiadau ar droed i greu Amgueddfa Hanes yn Sain Ffagan ac i droi llawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol i Gymru - disgwylir y bydd y gwaith yma wedi'i gwblhau ym mis Gorffennaf 2011. Dros y misoedd nesaf, byddaf i'n cefnogi cynnydd y projectau yma yn ogystal ag yn cadarnhau'r neges bod Amgueddfa Cymru yn adnodd modern ar gyfer Cymru. Swyddogaeth yr Amgueddfeydd Cenedlaethol yw gwasanaethu pobl Cymru, ac un ffordd o lwyddo i roi'r weledigaeth yma ar waith yw ffurfio partneriaethau diwylliannol. O ystyried sefyllfa ariannol y wlad ar hyn o bryd, mae'r dull yma yn bwysicach fyth.
Wythnos diwethaf, lansiwyd ein dogfen Ysbrydoli Cymru yn y Senedd. Mae dysgu wrth wraidd popeth a wna Amgueddfa Cymru ac mae'r papur yma'n dathlu'r gwaith yma, a'n gweledigaeth ni o fod yn amgueddfa ddysg o safon ryngwladol. Mae'r llyfryn yn dangos sut mae ein gwaith o ddehongli a chyfathrebu ein casgliadau i bobl Cymru, a'i hymwelwyr, yr un mor bwysig â bod yn geidwaid i gasgliadau'r genedl.
Mae Amgueddfa Cymru yn unigryw ymysg amgueddfeydd cenedlaethol yr Ynysoedd Prydeinig oherwydd ei amrywiaeth o safleoedd a hefyd eu cysylltiad clos gyda'r cymunedau a'r rhanbarthau y maent yn rhan ohonynt. All yr un amgueddfa genedlaethol yn Llundain ddod yn agos at gyflawni hyn.
Mae'r casgliadau hefyd yn anhygoel o amrywiol yn eu hystod eang o ddisgyblaethau - o hanes cymdeithasol i gelf, o wyddoniaeth natur i hanes diwydiannol. Mae hyn yn galluogi'r amgueddfa i apelio i gynulleidfa eang, gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau - sydd eto'n wahanol i rai amgueddfeydd yn Llundain!
Mae'r cyfle i weithio yn un o'r prif amgueddfeydd Celtaidd yn apelio'n fawr imi. A minnau wedi fy ngeni ym Melffast, ac wedi astudio Archaeoleg a Hanes Iwerddon yn yr Alban, rwyf yn falch o gael y cyfle nawr i ddysgu mwy about am ddiwylliant a hanes Cymru.








