Creu Hanes yn Sain Ffagan
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Ar 20 Gorffennaf 2012 cyhoeddodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei bod yn rhoi £11.5 miliwn i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Dyma’r grant mwyaf a ddyfarnwyd gan y Gronfa yng Nghymru erioed.
Bydd yr arian yn cyfrannu at Creu Hanes, project cyffrous gwerth £25.5 miliwn i weddnewid y trysor cenedlaethol hwn.
Byddwn yn ymestyn y llinell amser yn Sain Ffagan er mwyn i ymwelwyr allu dilyn straeon am bobl Cymru, o’r brodorion cyntaf hyd heddiw a thu hwnt.
Bydd mwy o wybodaeth ar gael yma wrth i'r project ddatblygu, a bydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan a Chreu Hanes yn Sain Ffagan.
Creu hanes ar y cyd
Amgueddfa am bobl Cymru fu Sain Ffagan erioed. Ond mae’r stori yn parhau, a chyda’ch cymorth chi, ein bwriad yw ei chyfoethogi a’i datblygu ymhellach.
Dyma ein cynlluniau. Wrth i’r gwaith adeiladu, yr arddangosfeydd a’r gweithgareddau ddatblygu, hoffem ichi fod yn rhan o’r broses – naill ai ar y safle neu ar-lein.
Profiadau newydd
Dros 230,000 o flynyddoedd o hanes
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Am y tro cyntaf erioed, cewch olrhain bywyd yng Nghymru o’r trigolion cynharaf hyd heddiw yn Sain Ffagan.
Rydym ni am droi prif adeilad Sain Ffagan yn lle dymunol a difyr – profiad i’w gofio yn hytrach na gofod i ruthro drwyddo.
Orielau difyr
Bydd orielau newydd cyffrous yn edrych ar dair agwedd ar ein hanes. Dewch draw:
- i drafod a dadlau sut, pryd a pham y daeth Cymru yn genedl
- i ddarganfod manylion bywyd beunyddiol gwahanol bobl, ddoe a heddiw
- i ddathlu a dysgu sgiliau creadigol cenedlaethau o wneuthurwyr.
Archaeoleg arbrofol
Bydd y profiad archaeolegol yn ymestyn i’r safle awyr agored. Yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol, byddwn yn ail-greu:
- Llys Rhosyr, un o lysoedd tywysogion Gwynedd, lle bydd cyfleusterau preswyl ar gael i blant ysgol
- Bryn Eryr, o Ynys Môn, lle bydd cyfle i bobl ifanc weithio gyda ni i ail-greu cartref o’r Oes Haearn.
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Ein bwriad yw creu:
- mynedfa drawiadol i’ch croesawu i'r Amgueddfa
- mannau i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau, awditoriwm a chyfleusterau gwell i ysgolion
- ardal ymchwil bwrpasol lle gallwch astudio ein casgliadau
- caffi fydd â golygfeydd o’r safle a lle chwarae newydd gerllaw.
Ar y safle, bydd adeilad ecogyfeillgar newydd sbon gyda chyfleusterau ar gyfer gweithdai crefft a pherfformiadau awyr agored.
Ni fydd rhaid aros i’r adeiladu fod ar ei draed – byddwn yn trefnu dyddiau agored sy’n rhoi cyfle i chi gyfarfod â’r tîm adeiladu a gweld y cynnydd gyda’r gwaith.