Cofio'r Cau - Amgueddfa Lechi Cymru
Yn ystod Tymor y Gwanwyn a'r Haf 2009, trefnwyd cyfres o sesiynau straeon digidol rhyng-genhedlaeth yn Amgueddfa Lechi Cymru i gofnodi atgofion pobl o'r cyfnod pan fu Chwarel Dinorwig gau, sef 1969.
Roedd y straeon yn cael eu creu gyda chymorth rhai o ddisgyblion Hanes Ysgol Brynrefail.
Roedd y disgyblion yn elwa o glywed a chofnodi hanes 'byw' a'r cyfranwyr yn cael cyfarwyddo eu straeon eu hunain, drwy weithio gyda'r disgyblion.
Anita Butler: Balchder y Chwarelwr
5_Quarrymans_Pride.cy.flvMerch a gafodd pob cyfle er i'w thad golli ei waith yn y chwarel.
Arwel Jones: Dyn y bysys yn Darogan
6_Bus_Mans_Prophecy.cy.flvMab i ddyn y bysys a oedd wedi darogan cau'r chwarel ymhell cyn 1969.
Catherine Foulkes: Hogan yr Offis Fawr
7_My_Days_in_the_Office.cy.flvUn o genod yr 'Offis Fawr' yn 1969.
Clarice Roberts: Teulu'r Bull
8_The_Bull.cy.flvRoedd Clarice a'i gŵr newydd gymryd tafarn y Bull, Deiniolen, drosodd pan glywon nhw am y chwarel yn cau.
Dic Jones: Y Lechen yn fy Ngwaed
9_Slate_in_My_Blood.cy.flvRoedd Dic yn gweithio'n Chwarel Dinorwig yn y 60au â cafodd ei gadw 'mlaen ar ôl Awst 1969 i orffen archebion olaf y chwarel.
Dilys Baylis: 'The Quarry Hooter'
1_The_Quarry_Hooter.flvSAESNEG YN UNIG - Cyfansoddodd Dilys y gerdd hon mewn ymateb i gau'r chwarel. Dyma hi'n ei darllen deugain mlynedd yn ddiweddarach.
Eirian Roberts: Hogan Dad Oeddwn i...
2_Hogan_Dad_Oeddwn_i.flvHanes merch oedd yn y chweched dosbarth pan gollodd ei thad ei waith yn y chwarel.
Elwyn Jones: 'Nôl a mlaen
11_Going_Back.cy.flvMab i Hugh Richard Jones, Prif Beirianydd Chwarel Dinorwig yn 1969. Bu Elwyn hefyd yn gweithio yno yn y '60au ac yna'n ddiweddarach fel un o staff Amgueddfa Lechi Cymru.
Huw Hughes: Gwobr Chwarela
13_Gwobr_Chwarela.cy.flvBu farw tad Hugh o glefyd y llwch â mae'n trafod y frwydr wynebodd y teulu i gael cydnabyddiaeth o'i salwch.
John Owen: 1969 Trwy Lygaid Gweinidog
3_Through_the_Eyes_of_a_Minister.cy.flvCyfnod y cau o safbwynt gweinidog ifanc yn yr ardal.
Stori Ken Jones
4_Stori_Ken_Jones.cy.flvHanes ei waith yn Swyddfa Budd-daliadau y Di-waith yn ystod 1969 a'i gyswllt efo Eddie Patrwm, crefftwr yn y Gilfach Ddu.
Stan Lyall: Colli 'Nhad
fatal_accident_cy.flvEi dad oedd yr olaf i gael ei ladd yn Chwarel Dinorwig.
William A. Williams: Hogia'r Iard
12_Hogiar_Iard.cy.flvHanes un o 'ffitars' y Gilfach Ddu.