Blog y coedwigoedd
Darllenwch yr holl newyddion diweddaraf i ddarganfod mwy am fyd natur yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ymchwilio ein Coedwigoedd
Mai 2010
Cywion yn Sain Ffagan!
Dilynwch ein camera nyth i weld y Titw Mawr yn Sain Ffagan!
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2736/
Cafodd wyth wy eu dodwy ar 27 Ebrill, ac fe ddeoron nhw ddoe o’r diwedd. Mae’r cywion mor fach nid oes modd eu gweld ond pan maent yn agor eu cegau. Mae Mr a Mrs Titw Mawr yn brysur yn bwydo eu teulu yn y goedwig yn Sain Ffagan.
Ebrill 2010
Gwyrth y Gwanwyn
Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.
Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Å´yn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.
Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!
Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.
Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!
Tachwedd 2009
Plannu coeden gyda Tree o'clock
Gyda dyfodiad y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm wythnos diwethaf dwi'n ymbaratoi at ddiwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf. Mae'n drueni gorfod ffarwelio â'r tywydd mwyn a bydd colled ar ôl lliwiau cynnes y dail yn Sain Ffagan. Ond mae'r tywydd garw wedi llarpio'r coed o'u dail sy'n gorwedd yn swp ar lawr.
Er nad ydynt ar eu prydferthaf, ar goed byddaf yn canolbwyntio wrth ddathlu Wythnos Genedlaethol y Goeden. Dros benwythnos olaf Tachwedd edrychwn ar y gwahanol fathau o goed yn Sain Ffagan a'u hadnabod wrth graffu ar y dail, yr hadau, y rhisgl a'r blagur. Bydd yr RSPB yma hefyd yn cynnal gweithgareddau sy'n ystyried pwysigrwydd y coed i'n hadar brodorol. Gan son am adar mae'r bwydo adar-gam yn brysyr iawn ar y foment, ac fe allwch dilyn y datblygiadau diweddaraf trwy'r tudalen Twitter yma
.
Dewch i ymuno â ni ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr pan fyddwn yn ceisio gosod record newydd y byd yn Llyfr Guinness ar gyfer plannu'r nifer uchaf o goed mewn awr. Mae'r ymdrech ar y cyd â llefydd i natur y BBC. Gallwch aros wedyn i greu addurniadau Nadolig cynaliadwy o'r perthi yn y T? Gwyrdd.
Nadolig cynaliadwy hefyd fydd thema fy ngweithgareddau yn y
Medi 2009
Autumn adventure
Firstly, apologies for my extended absence from these pages. I don’t have an excuse other than the summer activities kept me very busy this year! However, I find myself in a bit of a calm period at the moment so I thought I’d update you on what’s coming up over the next few months.
The autumn is fast approaching and the evidence is all around St Fagans. A quick walk about the site reveals bursts of bright red berries on hawthorn bushes and rowan trees and delicate highlights of yellow and orange edging into the green leaves of the beech woodland. A walk in the woods is accompanied by the steady sound of beech mast dropping with the breeze. The horse chestnuts have already begun to fall too, and the acorns and sweet chestnuts look like they won’t be long to follow.
In October activities will focus on this season of change. For Seed Gathering Sunday we will be looking at the variety of tactics trees use to disperse their seed during an enjoyable walk about the grounds.
On October the 24th there’s a real treat in store as the Ty Gwyrdd kitchen will be in action for the first time in years to demonstrate some traditional apple recipes.
The apple theme continues in the Ty Gwyrdd on the 25th of October where you can take part in Feed the Birds Day with the RSPB, and learn how to use apples to make great bird feeders.
During October half term we will be running Autumn Feast activities looking at traditional foods grown in the autumn as well as the wild food that grows in our woods, fields and hedges.
And right at the end of November I will be running activities alongside the RSPB that look at ways of telling trees apart and the importance of trees for wildlife. If that appeals to you why not join us on the 5th of December when we'll be working with the BBC to try and break the world record for the most amount of trees planted in one hour!
So I hope to see you at an event this autumn, and in the meantime get out there and enjoy the sunshine!
Ebrill 2009
Pengliniau bawlyd, cacwn a blodau'r gwynt!
Ar ôl gaeaf hir ac oer dwi'n siŵr bod llawer ohonom ni'n falch iawn bod y gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd! Er ei bod hi erbyn hyn yn ddechrau Ebrill mae arwyddion cynnar y gwanwyn wedi bod gyda ni ers sbel. Roedd y mis Mawrth hwn ymhlith y rhai sychaf yng Nghymru er 2002 ac roedd bron pobman ym Mhrydain wedi cael lefelau uwch nac arfer o heulwen. Roedd hyn wedi esgor ar ffrwydriad o liw yn ein coedwigoedd gyda blodau'n ymagor, y filfyw, blodyn y gwynt a'r friallen. Mae cacwn hefyd wedi dihuno o'u gaeafgwsg ac wedi cripian o'u tyllau yn y ddaear i ddechrau casglu paill a neithdar i fwydo'r nythfa.
Drwy gydol mis Mawrth cynhaliom ni weithgareddau yn Sain Ffagan gan eich annog i fynd yn weithgar mewn gwarchodaeth gwenyn. Plannodd dros 400 o ymwelwyr flodau gwyllt sy'n gynhenid i Brydain i ddenu gwenyn a phili-palaod. Dwi'n falch dweud eu bod yn ffynnu! Os hoffech chi wybod mwy am warchodaeth gwenyn beth am ymweld â wefan Gwarchod ein Gwenyn?
Byddai tro bach yn y parc neu'r goedwig leol yn ddigon i chi ddeall bod yr adar yn brysur iawn ar hyn o bryd. Mae ein hadar cân yn paru a nythu ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf wedi ymlafnio drwy'r gaeaf llym yma ym Mhrydain ond nid pob un. Mae'r Siff Saff cyntaf yn cyrraedd Prydain yn gynnar ym mis Mawrth o dde Ewrop a gogledd Affrica. Gallwch chi glywed eu cri dau nodyn ‘siff-saff’ nodweddiadol yn ein coedwigoedd, parciau a gerddi wrth fod y gwrywod yn cystadlu am fenywod a thiriogaeth. Beth am foeli clust am eu cri arbennig y tro nesaf rydych chi allan, neu pam na ddewch i ddigwyddiadd Côr y bore bach ar y 3ydd o Fai?
Mae gyda ni lawer o weithgareddau ar gyfer y gwanwyn gydag Wythnos Genedlaethol Compost yn digwydd yn gynnar ym mis Mai ac arwyddion y gwanwyn yn ystod hanner tymor mis Mai. Ewch i'r tudalen digwyddiadau am fwy o fanylion. Yn y cyfamser rhowch wybod i mi am ryfeddodau'r gwanwyn rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar yn y blwch sylwadau isod - unrhyw fwtsias y gog eto?
Chwefror 2009
Eira!
Yn debyg i gweddill y wlad, rydym ni wedi bod ymysg tywydd oer ac eiraidd yr wythnos yma. O ganlyniad mae'r adar wedi bod yn mynd trwy'r bwyd yn hynod o gyflym wrth iddynt ceisio adeiladu storfa o fraster i'w helpu trwy'r nosweithiau oer.
Edrychwch ar y lluniau o ein bwydydd adar isod, a pham na wnewch gacen adar i helpu ein gyfeillion bach pluog?
Ionawr 2009
Bwydwch yr adar!
Mae’r dyddiau’n fyr, mae’r glaw yn oer, mae rhew ar y dail ac mae’r gwynt yn rhewi ’nhrwyn; mae’n rhaid ei bod hi’n fis Ionawr! Ond mae’r oerfel yn cael effaith ar greaduriaid eraill heblaw am bobl. Mae’n rhaid i adar fwyta llawer mwy yn ystod misoedd y gaeaf i gadw rhag rhewi i farwolaeth yn y nos. Edrychwch ar y i weld pa mor brysur yw hi!
Mae’r gaeaf yn amser gwych i ddenu adar i’ch gardd gan eu bod yn llai swil wrth ddod i gael bwyd. Efallai y byddwch chi’n denu rhai rhywogaethau nad ydynt yn ymweld â bwydwyr gardd fel arfer.
Mae yna gyngor ardderchog am ddenu adar i’ch gardd ar wefan yr RSPB, a thra eich bod chi yno beth am ymuno â Gwylfa Adar yr Ardd y penwythnos hwn? Gallwch gymryd rhan yn arolwg adar mwya’r byd o gysur eich ystafell fyw!
Hydref 2008
Ffeindio Ffwng
Blog y Bwydydd Adar
Helo ’na bawb! Gobeithio eich bod chi’n mwynhau gwylio’r camera natur nawr ei fod yn gweithio’n iawn. Mae hi wastad yn brysur wrth y bwydwr adar ar y foment, felly mae yna digon i’ch diddori (neu os ’da’ch chi fel fi, i dynnu’ch sylw bant o’r gwaith!) am oriau. Mae’r bwydydd yn boblogaidd iawn gyda’r titw mawr, y titw las a’r titw penddu yn ogystal â’r llinos werdd, y ji-binc ac aderyn y to. Mae telor y cnau a’r robin goch hefyd yn ymweld yn rheolaidd ond anaml y ceir ymweliad gan y nico neu goch y berllan. Mae’r bwydydd hefyd yn denu’r gwiwerod lleol, ac er eu bod nhw’n ychydig o boendod i’r adar mae’n eithaf difyr gwylio eu hymdrechion acrobatig i gyrraedd y bwyd!
Mai 2008
Summer sights, Summer sounds
Firstly, apologies for the larger than usual gap between this posting and my previous blog; I have been very busy! Many aspects of the project are nearing completion and the presence of the woodland project at St Fagans is becoming more and more obvious. So here’s what’s been going on…
The path through the woodland has been dug and the panels will be with us in the next few weeks. I’m very excited about the panels as they have a lot of brilliant hands-on learning displays such as a wind-up arm that plays bird song and a load of models of footprints, feeding remains and droppings of woodland mammals! It looks like the path will be ready sometime in June and it promises to be an excellent addition to the museum.
The website too is near completion and will be live in a couple of weeks. I’m looking forward to watching the birds as they come and go, and am curious as to which species we’ll get visiting our feeders and nest boxes. The pond cam should be a delight too, and I can’t wait to have a go at filming newts!
This week has felt like the first week of summer with temperatures reaching 23 degrees Celsius. I took a group of visitors on a bird walk at 5:30am on Saturday to celebrate international dawn chorus day and it was a great success. As well as resident species we also saw migrants such as Blackcap, and the songs of Chiffchaff have been ringing around since late March. The woods are full of birdsong as the birds sing to mark their territories and attract a mate, and birds with beaks full of nesting material have become a common sight. There has also been a riot of colour in the woods over the past month with the blossoming of spring flowers such as primrose, lesser celandine, wood anemones, garlic mustard and bluebell. The trees too have begun to blossom and grow fresh green leaves and the canopy is getting thicker every day.
That’s it for now, but keep a look out for the website and the woodland path next month!




















