Blog y coedwigoedd
Darllenwch yr holl newyddion diweddaraf i ddarganfod mwy am fyd natur yr adeg hon o'r flwyddyn.
Ymchwilio ein Coedwigoedd
Ionawr 2012
Blwyddyn Newydd o Archwilio Natur yn Sain Ffagan
Y peth cyntaf i’w wneud eleni yw dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Roedd 2011 yn flwyddyn brysur iawn i’r project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Cafodd y project ei lansio’n swyddogol ym mis Ebrill, gydag amserlen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol y gwanwyn a’r haf oedd yn cymryd golwg fanylach ar fywyd gwyllt diddorol yr Amgueddfa.
Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gymryd rhan yn ein digwyddiadau gan wylio adar yn y guddfan, chwilio am fadfallod dŵr yn y pwll neu wylio’r ystlumod pedol lleiaf drwy ein camera is-goch. Peidiwch â phoeni os methoch chi’r digwyddiadau, bydd cyfleon eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd rhagor o fanylion yn ymddangos ar dudalennau Digwyddiadau. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?site=stfagans
Mae’r guddfan adar yn dal yn agored i ymwelwyr wrth gwrs. Mae’n leoliad gwych i ymlacio a gwylio adar y goedwig yn bwydo wrth i chi gerdded llwybr y goedwig. Dwi’n siŵr bod yr adar yn gwerthfawrogi’r bwyd gan ei bod hi’n aml yn anodd iddyn nhw ganfod bwyd yn y gaeaf, â hithau mor oer hefyd! Os yw’r guddfan braidd yn oer, gallwch chi wylio rhai o’r adar yn bwydo o gynhesrwydd y Cwt Natur yn Oriel 1, neu o gartref hyd yn oed. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/coedwig/gwylltgamerau/Bwydo_adar_gam/
Mae mis Ionawr yn amser delfrydol i chi ddysgu pa adar sy’n ymweld â’ch gerddi chi. Bydd yr RSPB yn cynnal eu Big Garden Bird Watch dros benwythnos 28-29 Ionawr. Beth am gymryd awr i wylio’r ardd a chofnodi pa adar sy’n ymweld. Gallwch chi gofrestru a dysgu rhagor ar wefan yr RSPB. http://www.rspb.org.uk/birdwatch/
Dyma ni’n manteisio ar y tywydd sych, ond gwyntog iawn y bore ‘ma i osod blychau nythu. Rydyn ni’n gobeithio denu Titwod Mawr i un blwch, a Robiniaid i’r llall. Mae camera yn y ddau, felly dylen ni gael lluniau da o unrhyw wyau a chywion os bydd yr adar yn cael eu denu. Byddwn ni’n rhannu unrhyw luniau gyda chi wrth gwrs!
Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein bywyd gwyllt ni a digwyddiadau natur yn yr Amgueddfa, gallwch chi ein dilyn ni ar Twitter ar www.twitter.com/Nature_StFagans neu anfonwch ebost at natur.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Tachwedd 2011
Blog adar
Coch y Berllan Benyw yn bwydo yn ein coedwigoedd heddiw. Dewch i weld yn ein cuddfan adar www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/coedwig/neu gwyliwch nhw o'ch gartref www.amgueddfacymru.ac.uk/coedwig/gwylltgamerau/
Gorffenaf 2011
Da na na na na... bat cam! bat cam!
Dewch i weld camera ystlumod Sain Ffagan, lle gallwch chi wylio Ystlumod Pedol Lleiaf yn magu eu cenawon. Mae’r camera yn adeiladau’r Tanerdy a gellir ei weld bob dydd o fis Ebrill hyd fis Hydref.
Neu beth am alw draw i un o’n Diwrnodau Gweithgaredd Archwilio Natur pan fydd Hywel Couch wrth law i ateb cwestiynau am ystlumod ac adar. http://tinyurl.com/3z5a2q5
Os taw gwylio ystlumod wedi iddi nosi sy’n mynd â’ch bryd, archebwch le ar ein taith ystlumod deuluol. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=5029
Heddiw, ar ôl gosod goleuadau Is-goch newydd i wella’r ddelwedd ar y camera, llwyddom i gyfri tua 50 ystlum, ac roedd 20 yn fabanod a anwyd dros yr haf.
Yr wythnos diwethaf, mynychodd tîm o arbenigwyr ystlumod gwrs arbenigol dan arweiniad Wildwood Ecology. Yn ystod y cwrs, recordiwyd 6 math gwahanol o ystlum sy’n byw ar y safle yn cynnwys: Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum Natterer, Ystlum Adain-lydan, Ystlum Soprano Lleiaf, Ystlum Hirglust ac Ystlum y Dŵr.
Ebrill 2011
Archwilio Natur yn Sain Ffagan!
Wedi misoedd o gynllunio a pharatoi, lansiwyd project Archwilio Natur yn Sain Ffagan yn swyddogol yn gynharach y mis hwn. Ar 2 Ebrill, cynhaliwyd diwrnod yn llawn gweithgareddau natur a bywyd gwyllt. Roedd y tywydd yn wych a bu cannoedd o ymwelwyr â’r amgueddfa wrthi yn edrych ar adar, gwylio ystlumod, archwilio’r pwll ac yn gwneud gweithgareddau celf a chrefft. Rwy’n gobeithio i bawb fwynhau’r diwrnod cymaint ag y gwnaethon ni! Hoffwn ddiolch i bawb alwodd draw, yn enwedig Daniel, sy’n torri’r rhuban ar y guddfan adar yn y ffotograff.
Gan fod y gwanwyn gyda ni ers tipyn bellach, mae Sain Ffagan yn llawn bywyd gwyllt unwaith eto! Mae’r ystlumod pedol lleiaf wedi dychwelyd i’r Tanerdy, fe gyfrais i 25 ohonyn nhw ddoe! Yn ddiweddarach yn yr haf bydd y benywod yn geni eu cenawon gan taw dyma eu man clwydo mamolaeth. Beth am ddod draw i’r Tanerdy a’u gwylio ar y camera is-goch arbennig?
Mae’r pyllau yn y Tanerdy’n llawn bywyd unwaith eto. Mae’r fadfall ddŵr, y cychwr bolwyn, hirheglyn y dŵr, gwas y neidr a llawer mwy yno yn eu cannoedd. Mae’n siŵr taw’r Tanerdy yw’r adeilad gorau am fywyd gwyllt ar y safle. Dychwelodd y gwenoliaid sy’n clwydo yno dros yr haf yr wythnos ddiwethaf. Mae’n wych gallu gweld cymaint o fywyd gwyllt mor agos.
Fel rhan o’n project Archwilio Natur, byddwn yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol misoedd y gwanwyn a’r haf, o deithiau cerdded boreol i weld yr adar i deithiau yn yr hwyr i weld yr ystlumod. Cadwch lygad ar wefan yr Amgueddfa am ragor o wybodaeth.
Gan fod y Tanerdy yn lle mor dda am fywyd gwyllt, bydda i’n treulio’r diwrnod yno ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill. Dewch draw i ddysgu mwy am yr ystlumod, y madfallod dŵr a’r bywyd gwyllt arall sydd wedi ymgartrefu yn yr adeilad hwn!
http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=4792
Mawrth 2011
Lansiad Prosiect Archwilio Natur yn Sain Ffagan
Ar ddydd Sadwrn, Ebrill 2, byddwn yn lansio ein project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y lansiad am 11am yn Oriel 1, ac yn dilyn y lansiad byddwn yn cynnal nifer o weithgareddau natur trwy’r dydd.
Bydd cyfle i ymweld â’n cuddfan natur newydd, ble bydd aelod o staff ar gael i’ch helpu i adnabod y gwahanol adar sy’n ymweld â ni. Hefyd, bydd cyfle i ddarganfod sut i ddenu gwahanol adar i’ch gardd chi, er mwyn eu gwylio o’ch cartref.
Mi fydd gweithgareddau hefyd yn cael eu cynnal yn ardal y Tanerdy. Mae’r Tanerdy’n gartref i amrywiaeth fawr o anifeiliaid, o’r fadfall ddŵr gribog i’r ystlum pedol lleiaf prin. Dewch draw i ddarganfod mwy am y creaduriaid diddorol hyn. Byddwn hefyd yn pori’r pyllau dŵr a hela bwystfilod bach, dewch i ddarganfod mwy gyda ni!
Fel rhan o’r project Archwilio Natur rydyn ni wedi cynhyrchu dwy ffilm natur gafodd eu ffilmio yma yn yr amgueddfa. Mae’r ffilm gyntaf yn dangos yr holl amrywiaeth o fyd natur rydym yn lwcus i’w chael yma, ac mae’r ail ffilm yn canolbwyntio ar yr ystlum pedol lleiaf. Mwynhewch!
Ydi'r gwanwyn wedi cyrraedd?
Yn gyntaf, Dydd Gwyl Dewi Hapus i bawb! Mae mis Mawrth wedi cyrraedd, ond ydi’r gwanwyn ar y ffordd? Es am dro bore ‘ma o amgylch yr amgueddfa i weld os oedd golwg o’r gwanwyn. Dyma beth wnes i ddarganfod…
Chwefror 2011
Dathlu Hanner Tymor Pluog
Mae hi'n National Nest Box Week yr wythnos hon ac mae hi'n Hanner Tymor yr wythnos nesaf felly 'da ni wedi penderfynu cyfuno'r ddau i gael gweithgareddau ar them adar yn y Tŷ Gwyrdd dros y penwythnos yma ac o ddydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos nesaf. Mi fyddwn yn gwneud bwytai a bocsys nythu i'r adar ac mi fydd yna becyn gwybodaeth am ddim i'ch helpu i ddenu adar i'ch gardd.
Mae'r gwanwyn ar y ffordd felly mae'n amser codi'r bocsys nythu cyn i'r tymor cenhedlu ddechrau. Mae'r gwanwyn a'r haf yn gyfnod hynod o frysur i'r adar wrth iddynt geisio ffeindio digon o fwyd i'r holl gywion yn ogystal i â nhw eu hunain. Dwi'n siwr y byddant yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth gennym ni!
Ardal Natur Newydd yn Oriel 1!
Ar ddiwedd wythnos diwetha, dechreuodd gwaith i ail-wneud yr ardal nature yn Oriel 1 yma yn Sain Ffagan. Mae hyn yn rhan cyffroes o prosiect Archwilio Natur yma yn yr amgueddfa, bled a ni’n tynnu sylw at y wledd or bywyd gwyllt sy’n by war y safle.
Y cam cynta o’dd i addurno’r lle. Lliwiau thema’r goedwig dewisom gyda paneli mawr lliwgar sy’n dangos rhai o’r anifeiliaid sy’n byw o fewn yr amgueddfa. Mae’r paneli nawr i gyd yn ei le, fel gallwch gweld o’r lluniau. Gobeithio mae’r rhain wedi neud yr ardal yn deniadol ond hefyd yn ffordd hwyl i ddysgu am ein bywyd gwyllt.
Rydym yn gweld yr ‘ardal natur’ hefyd fel ardal gweithgareddau ble gall nifer o weithgareddau batur cymryd lle. Ma ‘na silffoedd newydd wedi ei osod yma, bydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos samplau, cadw gemau ac ati ac wrth gwrs fel silff lyfrau yn dal amryw o lyfrau nature a bywyd gwyllt. Mae hyd yn oed gennym ardal i arddangos eich gwaith celf, felly dewch draw i arlunio campwaith!
Wythnos ‘ma bydd y rhannau technolegol yn cael ei gosod, rhywbeth ‘da ni’n edrych ymlaen at yn fawr iawn! Ar hyd y wall hir (rhwng y deryn du a’r ystlum) bydd teledu mawr. Bydd y teledu yn dangos lluniau byw o’n bwydo adar-gam, felly byddwch yn gallu gwylio’r holl adar yn bwydo. Bydd hefyd modd i wylio lluniau o’n gwylltgamerau eraill, o’r camera ystlum a’n camera dan dwr.
Ynghyd a ffilmiau o’n gwylltgamerau, mae hefyd gennym dogfennau bywyd gwyllt Sain Ffagan. Bydd rhain ar gael i wylio ar y sgrin fawr, o cysur y sofa os dymunwch. Mae’r ddogfen cyntaf yn dangos y wledd o bywyd gwyllt sy’n byw yn yr amgueddfa, tra bod yr ail ddogfen yn canolbwyntio or yr Ystlumod Trwyn Pedol sy’n clwydo yn y Tanerdy yma.
Rydym yn hapus iawn gyda sut mae’r ardal nature newydd yn edrych, ac yn gobeithio cael popeth yn ei le ac yn gweithio erbyn hanner tymor, sef wythnos nesaf! Dewch draw i’r amgueddfa yn ystod wyliau hanner tymor, bwrwch golwg a rhowch wybod i ni be da chi’n feddwl!
Os ni allwch ymweld wythnos nesaf, byddwch yn siwr i ymuno a ni am lawnsiad y prosiect Archwilio Natur, sy’n cymryd lle ar ddydd Sadwrn Ebrill 2ail! Am fwy o wybodaeth pwyswch yma.
Ionawr 2011
Paratowch i gyfri...
Ydych chi'n mwynhau gwylio'r adar yn eich ardd? Oes 'da chi hoff le i fynd i wylio'r adar? Penwythnos 'ma (29ain a 30ain Ionawr) yw'r Big Garden Birdwatch, sef arolwg blynyddol o adar Prydain sy'n cael ei threfnu gan yr RSPB.
Dim ond awr sy angen i recordio pa adar sy'n ymweld a'ch ardd neu parc lleol. Am restr o parciau Caerdydd, cliciwch yma.
Gallwch hyd yn oed ymweld a ni yma yn amgueddfa Sain Ffagan i weld pa adar gallwch weld o'n cuddfan adar. Ble bynnag da chi'n mynd, cofiwch i wisgo'n gynnes, gall fod yn oer iawn!
Does dim tal i cofrestru ac mae'r holl wybodaeth 'da chi angen ar gael ar wefan yr RSPB: www.rspb.org.uk/birdwatch
Beth welwch chi??
