Planhigion Clefyd-y-Gwair yng Nghymru
gan Lois Roberts a Tim Rich.
Beth yw clefyd-y gwair?
Mae ein cyrff yn dda iawn am amddiffyn eu hyn oddi wrth gwahanol afiechydon, a bacteria eraill sydd yn ymosod arnynt pob dydd, ond er hyn, fedrith rhai o'r bacteria achosi ein cyrff i gor-adweithio i sylwedd pennodol sy'n creu adwaith alergaidd. Yr effeith o ganlyniad i hyn yw tisian, poen yn yr stumog ac brechdrost y croen.
Clefyd-y-gwair yw un o'r alergaidd fwya cyffredin ac yn cael ei achosi gan adwaith alergedd i paill. Nid yw clefyd-y-gwair yn cyflwr meddygol difrifol, ond yn hynnod o boen i unrhyw unigolyn sy'n dioddef, ac yn aml yn medru amharu ar gweithgareddau dyddiol.
Mae'r paill yn cael ei gario gan yr pryfid a gwynt, ac felly mae yn yr aer o'n amgylch. Oherwydd hyn, mae yn darganfod ei ffordd mewn i lygaid pobl ac yn glanio ar y bilen yn yr trwyn a'r gwddf tra rydym yn anadlu. Ond i rhai pobl sy'n hynnod o sensitif i clefyd-y-gwair, mae'r adwaith yn dechrau pan mae'r corff yn darganfod alergennau, sef cemegion tu mewn i gronyn y paill. Mae'r adwaith alergedd yn achosi chwydd a poen trwy rhyddhau cemegyn arall o'r enw histamin sy'n achosi symptomau clefyd-y-gwair sef tisian ac dyfraid llygaid.
Mae clefyd-y-gwair yn cwyn cyffredin ac yn effeithio tua 10-20% o'r poblogaeth o leia un waith yn eu bywydau. Mae clefyd-y-gwair yn dueddol o gael ei basio lawr yn genetic trwy teulu. Mae'n fwy cyffredin mewn pobl ifanc, ac yn fwy debygol o ddechrau yn eu arddegau. Fel y mae pobl yn heneuddu, mae'r alergedd yn lleihau. An-aml iawn ei bydd yn dechrau mewn oedran hen. Bydd rhan fwya o pobl wedi tyfu allan ohono erbyn eu canol-oed.







