The Victorian English Gentlemens Club
Enw: Mr Fenton and his photo of Melrose Abbey
Artistiad: The Victorian English Gentlemen's Club
Meithder: 2:28
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7mb, MP3]
Bywgraffiad

Ffurfiwyd y Victorian English Gentlemen's Club pan gyfarfu Adam Taylor a Louise Mason â'i gilydd yn y coleg celf yng Nghaerdydd.
Gan gyfuno eu diddordeb mewn celf a cherddoriaeth gitâr arbrofol dechreuodd y ddau ysgrifennu cerddoriaeth a ysbrydolid yn gyfan gwbl gan y Velvet Underground a Sonic Youth. Blwyddyn yn ddiweddarach roedd yr albwm cyntaf wedi'i gwblhau a llofnodwyd y band ar label Fantastic Plastic Records, Llundain.
Gyda'r drymiwr Emma Daman aeth y band ar daith am ddwy flynedd gan serennu mewn teithiau eang o gwmpas Ewrop a Phrydain gan chwarae yn SXSW 08 ac yn cefnogi teithiau gyda Future of The Left, Noisettes, Deerhoof a British Sea Power.
Wedyn aethant ar encil i ysgrifennu cant o ganeuon (cafodd 88 ohonynt eu difa mewn ffordd ddi-boen) ac erbyn hyn mae'r gweddill ar blât arian tair modfedd i chi. Roedd y dylanwadau ar y record gyntaf yn amlwg ond mae'r ail Love on an oil rig yn sefyll yn gadarn ar ei thraed ei hun. Mae'r syniadau moel a chyntefig wedi'u diffinio'n glir gan gadw ymwybyddiaeth yr ysgol gelf o'r absẃrd, y beiddgar a'r estron.
Ers y recordiad recriwtiwyd drymiwr newydd a phedwerydd aelod o'r clwb i gynyddu ffyrnigrwydd eu sŵn gan ei gymryd i'r lefel nesaf gyda gitarau swnllyd, bloeddiadau a sgrechfeydd.
Dyma sain y lleisiau, y gitarau, y basau, y drymiau, y llifiau crynion, yr eglwysi, y llawiau, yr esgidiau, y dwyfronnau a'r ysgyfaint puraf wedi'u cyfosod mewn perffeithrwydd trwsgl. Nid yw'r band am ddefnyddio allweddellau, syntheseisyddion neu acrylig system tri ac ni wnânt chwaith. Yn y ddwy flynedd diwethaf mae'r band wedi perfformio mewn tair fforest, dwy eglwys ac un syrcas. Maent yn byw yng Nghaerdydd o hyd. Fel grŵp maent yn mwynhau pedalau effeithiau, Sonic Youth, clychau, gwylanod wedi'u stwffio, cotiau glaw melyn, camffurfiad (distortion), bonsái, tâp du'r giaffar, dominos asgwrn ac ifori a Wire.
£Ysbrydoliaeth

Ysbrydolwyd y Victorian English Gentlemen's Club gan waith y ffotograffydd o'r 19eg ganrif Roger Fenton (1819–1869).
Roedd Fenton yn arloeswr ym maes ffotograffiaeth ac ef oedd y ffotograffydd rhyfel swyddogol cyntaf wrth iddo weithio yn y Crimea ym 1855.
Dechreuodd Fenton dynnu lluniau o adeiladau hanesyddol yn y 1850au gan deithio dros Brydain yn ei stiwdio symudol. Mae'r delweddau yn adlewyrchu'r diddordeb cynyddol mewn cadw ac adfer yr adeiladau hyn a dylanwad yr Adfywiad Gothig a oedd ar ei anterth ar y pryd.
Codwyd Abaty Melrose yn y 12fed ganrif ac fel hanner adfail â nodweddion Gothig roedd yn bwnc perffaith i gamera Fenton. Mae ei astudiaethau pensaernïol hefyd yn adlewyrchu'r traddodiad darluniaidd mewn celf lle mae tirluniau ac adfeilion llawn awyrgylch yn cael eu cyfuno wrth archwilio'r berthynas rhwng dyn a natur.
Roedd y syniad hwn - a chysyniad yr Aruchel - yn ganolog i'r mudiad Rhamantaidd mewn celf a llenyddiaeth. Gwnaed Abaty Melrose yn enwog gan y nofelydd Rhamantaidd Syr Walter Scott a thynnodd Fenton ar waith Scott wrth iddo ddewis llefydd yn yr Alban i dynnu lluniau.
Mae safle Fenton a'r ffaith bod ffigyrau'n cael eu cynnwys yn y llun yn tanlinellu dirfawredd yr abaty ac yn awgrymu ymdeimlad annifyr o ddirgelwch a stori anorffenedig.
Mae'r Victorian English Gentlemen's Club wedi tynnu ar yr elfen hon i awgrymu cyd-destun dychmygol sef Fenton yn gosod y modelau fel petai ar gyfer priodas. Mae Adam Taylor o'r band yn esbonio:
'Roedd amseroedd dinoethi ffotograffau'r 19eg ganrif yn hwy nac yn awr. Roedd modelau'n aros yn stond am gyfnodau hir ac roedd yn rhaid llwyfannu popeth. Pwnc y gân yw'r eiliadau hynny o ddistawrwydd.
Recordiwyd y gân ar hen gitâr trydanol gyda llinyn bas a ddidiwniwyd yn lle'r llinyn uchaf. Mae'n rhoi sŵn suo a weithiodd yn dda ar gyfer y darn hwn. Ceisiwn gael y prif leisydd a'r cyfeiliant bron mewn tôn gron i'm hatgoffa o'r emynau roeddem yn eu canu yn yr eglwys pan oeddwn yn blentyn.
O'r cychwyn yn deg roeddwn am i'r gân hon fod yn wahanol i'r hyn rydym yn ei wneud fel arfer yn y band ond ei bod yn cydymffurfio o hyd â strwythur traddodiadol sef pennill a chytgan. Nid oeddwn am greu cefndir cerddorol i'r ffotograff gydag effeithiau sain ac ati. Mae'n gân a ysgrifennwyd ar ôl edrych ar ffotograff.’

Dangos sylwadau





