Silence At Sea - Fields On Fire
Enw: Fields On Fire
Artistiad: Silence At Sea
Meithder: 3:45
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [4.3mb, MP3]
Am Silence At Sea
Dechreuodd Silence at Sea fel deuawd bachgen a merch, gitâr a llais. Ychydig bach fel Simon a Garfunkel - pe tai Garfunkel yn ferch a phe tai sbectol gyda Simon.
Yn wahanol i Simon a Garfunkel, tyfodd y deuawd yn bumawd gan ychwanegu clychau taro, feiolin, niwl y radio, bas a theipiadur.
Fe'u disgrifiwyd fel pop gwerin cartref ganddyn nhw eu hunain, fel band roc pefriol gan rywun arall, fel Talulah Gosh ffilm noir gan Neil 'miwsig' Jones ac fe'u cymharwyd â Laura Veirs a Kimya Dawson gan Peppermint Patti.
Maen nhw wedi chwarae gyda Cate le Bon, Victorian English Gentleman’s Club ac wedi agor Gŵyl Indietracks y llynedd. Rhyngddynt maen nhw wedi gwisgo fel cath ac wedi bwyta gwenynen yn fyw ar y llwyfan.
Mae gyda Silence at Sea hen albwm (the oh-no! telephone), record estynedig newydd (super tachyonic anti-telephone) a chân am isopodau anferth. Mae aelodau Silence at Sea hefyd yn chwarae yn Pagan Wanderer Lu and The Volunteers, Little My, Hornby Pylons a Vaginosaur.
Y trac yn eu geiriau eu hunain:
Syniad y gân yw cymryd safbwynt Van Gogh wrth iddo golli ei bwyll tua diwedd ei fywyd a thorri ei glust i ffwrdd a'i rhoi i'w gariad er mwyn clustfeinio arni (fel pe tai o hyd yn medru clywed drwyddi). Mae'n ei chlywed gyda rhywun arall ac mae hyn yn ei yrru'n genfigennus a mwy gorffwyll.
Dwi wedi gweld lluniau eraill o'i waith lle mae'n paentio pethau - gan gynnwys meysydd a'r awyr - fel tân ac mewn ffordd roedd hyn yn cynrychioli ei orffwylledd. Darllenais mewn sawl man ei fod wedi cymryd ychydig o ddyddiau i farw ar ôl iddo saethu ei hun yn Auvers. Felly mae'n bosibl ei fod wedi bwrw ymlaen a gorffen rhai lluniau heb sylweddoli ei fod wedi'i glwyfo'n angheuol. Mae'n siŵr bod peth dychymyg tu ôl i hyn ond yn fy marn i mae'n chwip o stori.
Ysbrydoliaeth
Yn mis Mai 1890, symudodd Van Gogh o Arles yn Provence i bentref Auvers-sur-Oise, i'r gogledd o Baris. Yno bu'n lletya yn y Café Ravoux yn cael triniaeth gan Dr Paul-Ferdinand Gachet. Rhwng 17 Mehefin a 27 Gorffennaf, peintiodd Van Gogh dri ar ddeg o gynfasau sgwâr o'r gerddi a'r caeau o gwmpas Auvers.
Yn ei lythyr olaf, dywedodd ei fod 'wedi llwyr ymgolli yn yr ardal helaeth o gaeau gwenith yn erbyn y bryniau, mor ddiderfyn â'r môr, o liw melyn cain, lliw gwyrdd cain, fioled cain darn o bridd wedi ei droi a'i chwynnu.'
Daw'r ffordd y mae'n trin glaw fel llinellau lletraws o'r toriad pren Pont yn y glaw gan yr arlunydd Siapaneaidd Hiroshige, arlunydd yr oedd wedi copïo ei waith ym 1887. Mae'r awyrgylch yn ein hatgoffa o un o hoff gerddi Van Gogh, The Rainy Day gan Longfellow: 'My life is cold, and dark, and dreary; It rains, and the wind is never weary...Into each life some rain must fall, some days must be dark and dreary.'
Saethodd Van Gogh ei hun a bu farw ar 29 Gorffennaf 1890 yn fuan ar ol peintio'r gwaith hwn. Prynwyd ef gan Gwendoline Davies ym 1920.








Gadael sylw