Ratatosk
Enw: Damnati ad Bestias
Artistiad: Ratatosk
Meithder: 8:36
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [5mb, MP3]
Bywgraffiad

Yn wreiddiol, gwiwer ddrygionus o fytholeg y Llychlynwyr yw Ratatosk, ond yn y cyd-destun hwn mae’n cyfeirio at hogyn o’r enw Rhodri Viney.
Mae Rhodri wedi perfformio ac wedi rhyddhau cerddoriaeth o dan yr enwau Teflon Monkey a Broken Leaf, ac wedi chwarae rhan bwysig mewn bandiau fel Right Hand Left Hand a Vito. Yn ogystal â hyn mae wedi chwarae’n fyw ac ar recordiau gyda Gorky’s Zygotic Mynci, The Secret Show, Brave Captain, Cymbient, Little My a llu o fandiau eraill.
Gellir disgrifio cerddoriaeth Ratatosk mewn dau air – diflasedd a minimaliaeth. Os yw’r motiff gwreiddiol yn ddigon trist a melancolaidd i ddod â deigryn i’r llygad, yna caiff ei archwilio a’i ehangu trwy ail-adrodd Zen ei natur, bron, gan ddefnyddio haenau o gitarau, lleisiau, piano, llif gerddorol a’r pedal steel.
Mae Ratatosk wedi cael ei ddylanwadu gan unigolion sy’n torri eu cwysi eu hunain – ac mae pobl fel Brian Eno, Matt Elliott, Yann Tiersen, Leonard Cohen, Arvo Part, Eluvium, Rhys Chatham, Tom Waits a William Basinski oll wedi gadael eu marc arno, yn ogystal â phawb sydd wedi canu can drist ar noson oer.
Sylwadau ar y ‘gân’:
“Mae meddwl am yr holl hanes sydd wedi digwydd ar ddarn penodol o dir wedi fy hudo erioed – boed hynny’n gastell, stryd neu ardd rhywun – ac mae’r amffitheatr yng Nghaerllion yn berffaith ar gyfer hyn; syrthiais mewn cariad â’r lle y tro cyntaf i mi ei weld.
Seiliwyd y syniad am Damnati Ad Bestias (Damniedig i’r Anifeiliaid) ar fy syniad am Gladiator unig, lluddedig a llawn creithiau, sydd wedi gweld nifer o’i gyfeillion a chyd-frwydrwyr yn marw dros y blynyddoedd. Yn ystod ennyd dawel o fewnsyllu, mae eu heneidiau ingol yn dod i ymweld ag e…”
Yr Ysbrydoliaeth

Roedd Caerllïon, neu Isca i’r Rhufeiniaid, yn un o dair Caer barhaol a godwyd ym Mhrydain yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Roedd y gaer ei hun ar ffurf cerdyn chwarae, ac yn defnyddio 50 erw o dir sydd bellach yn safle’r Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.
Ychydig funudau o gerdded o’r orielau fe welwch yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain.
Cychwynnwyd adeiladu’r amffitheatr yn 90 OC y tu allan i furiau’r gaer, ac mae’n parhau i fod yn olygfa drawiadol hyd heddiw. Wrth sefyll yn ei ganol, gallwch ddychmygu’r golygfeydd a synau’r torfeydd yn bloeddio. Gallai fod wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol gemau, gwyliau milwrol a chrefyddol, neu fel maes ymarfer neu barêd.
Enw yr amffitheatr mewn chwedloniaeth leol yw Bord Gron y Brenin Arthur. Cloddiwyd yn amffitheatr gan Dr Mortimer Wheeler, Ceidwad Archaeoleg wedyn Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol, yn y 1920au.
Ar ôl cwblhau'r gwaith cloddio, archwiliwyd a symudiwyd bron i 30,000 tunnell o bridd o'r safle. Yn ôl y cyfrifiadau a wnaed, byddai'n rhaid i wal wreiddiol yr arena godi i uchder o bedwar metr a rhaid i'r wal allanol fod tua deg metr o uchder.
Gwelir amffitheatr o adeiladwaith tebyg ar Golofn Trajan yn Dobreta, canolfan y Rhufeiniaid wrth y bont dros afon Donwy yn Romania.
Amcangyfrifwyd bod rhyw 6,000 o seddi yn y grandstand pren yng Nghaerllion, sef digon o le i'r lleng gyfan fwy neu lai. Er bod y digwyddiadau yn yr amffitheatr dipyn yn llai gwaedlyd heddiw, mae'r ailgreadau dramatig yn dal i ddenu cynulleidfaoedd mawr heddiw.

Dangos sylwadau






