Quintamity
Enw: Stone Over Bones
Artistiad: Quintamity
Meithder: 5:38
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [6.5mb, MP3]
Am Quintamity

Treuliodd Ashley McAvoy y rhan fwyaf o’i arddegau yn breuddwydio am fod mewn band roc enwog. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at “y syniad annoeth, ond penderfynol, y freuddwyd amhosibl - a gefais i ac ambell ffrind ysgol oedd yr un mor wallgof - i gael cytundeb gwerth miliwn triliwn o ddoleri gydag un o’r labeli recordiau mawr.“
Ar ôl gwario ffortiwn yn recordio bron i gant o ganeuon, dim ond un EP pedwar trac llwyddodd y band ei ryddhau, a gwerthwyd llai na 200 copi ohoni. Yn ôl Ash, roedd rhai o’r adolygiadau “ymysg y gwaethaf i mi eu darllen erioed”.
Wedi’i chwerwi a’u bychanu, chwalodd y band. Ond yn hytrach na rhoi’r ffidl yn y to, penderfynwyd bod bod mewn band er ei fwyn ei hun yn well na pheidio bod mewn band o gwbl.
Dyna ddechrau Vito, casgliad o unigolion sy’n obsesu ar bedalau oedi a chreu ias ôl-roc sydd hyd yma wedi rhyddhau dau albwm trwy’r label The Flowershop Recordings, sy’n cael ei rhedeg gan Robin Proper-Sheppard (God Machine/Sophia).
Wedi’i ysbrydoli gan ddull gonest ac emosiynol Robin o gyfansoddi, mae Quintamity wedi datblygu i fod yn allfa ar gyfer y gerddoriaeth mae Ash yn teimlo sy’n rhy bersonol i’w rannu â’r band, er nad yw hyn wedi’i stopio rhag gwahodd aelodau o Vito i ymuno ag ef i ddathlu ei “ddiflastod”, at ddibenion recordio a chwarae’n fyw.
Yn gerddorol, dechreuodd Ash rhywle tua dechrau’r 70au gydag ochr fwy gwerinol Led Zeppelin, ac mae’n gobeithio cyrraedd rhywle’n agos i’r Doves neu Kings of Convenience. O ran ei eiriau, dywed nad oes modd esgus fod ganddo strategaeth ond ysgrifennu’r geiriau wrth eu bod yn dod allan, ac mae’n gobeithio na fydd y bobl agosaf ato’n eu cymryd yn rhy bersonol. Wedi’r cyfan, “dim ond geiriau” ydyn nhw.
Am y trac Stone Over Bones:
“Rhai blynyddoedd yn ôl es i gyda Dr Steve Burrow i weithio ar arolwg o Bryn Celli Ddu yn Ynys Môn tua adeg cyhoeddi ei lyfr, Cromlechi Cymru. Roedd yn anrhydedd mawr cael dysgu am ein hynafiaid yn uniongyrchol gan un o arbenigwyr y DU.
Yn ystod ein trafodaethau, dychwelais dro ar ôl tro i’r syniad syml bod y beddrodau hyn wedi’u hadeiladu gan y byw i fynegi cariad a pharch tuag at y meirw. Felly a minnau’n rhamantydd yn y bôn, cefais ysbrydoliaeth i ysgrifennu’r gan Stone Over Bones.
Er mai ychydig iawn y gwyddom am fywydau byrhoedlog ein hynafiaid, fe’m syfrdanwyd gan y syniad y bydd yr emosiwn ynghlwm â’u hymdrechion i goffau’r meirw yn para am byth - fel ein cerddi, molawdau a’n caneuon serch ni heddiw.”
Yr Ysbrydoliaeth

Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru
5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon.
Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog.
Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau.
Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd.
Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau.
Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin.
O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw.
Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon.
Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? Dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys.

Dangos sylwadau





