Pulco
Enw: Caban
Artistiad: Pulco
Meithder: 5:43
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [6.4mb, MP3]
Am Pulco
Wedi’i amgylchynu â dillad yn ei stiwdio-wardrôb, mae Pulco yn broject recordio cyfredol gan leisydd/gitarydd Ash Cooke o Derrero gynt. Yn 2002 chwalodd y band a phenderfynodd Ash ganolbwyntio ar helpu codi ei fab newydd-anedig yn y gogledd gwyllt. Er ei fod wedi dewis rhoi ei ddull byw indie-rock ar y naill ochr (o leiaf dros dro), ni fu pall ar ei ddawn i sgwennu caneuon.
Ers ymadael â Derrero, mae Ash wedi rhyddhau pedwar albwm a record estynedig o gerddoriaeth ddiymhongar. Mae’r albymau Wengen ac Undersea Adventure yn cynnwys ystod o drefniannau llawn dychymyg ac offerynnau anarferol ac mae ei albwm diweddaraf Sorepaw yn fwy moel a gwerinol sy’n rhoi naws agos-atoch a dwys. Mae bron y cyfan o gerddoriaeth Pulco wedi’i recordio gartref ar hen Tascam Portastudio.
Maen nhw’n cael eu disgrifio fel band gwerin amgen sy’n dwyn y gwrandawydd i fyd sy’n wych ond rhyfedd gyda geiriau llawn dychymyg, defnydd lliwgar o offerynnau a harmonïau llais cyfoethog. Yn ogystal â’i waith gitâr medrus mae caneuon Pulco yn cynnwys allweddellau rhad, offerynnau tegan ac unrhywbeth arall mae Ash yn gallu ei ddefnyddio i ychwanegu diddordeb at y cymysgedd.
Yr Ysbrydoliaeth

Yn y Caban byddai gweithwyr y Gilfach Ddu yn ymgynnull am ginio. Roedd yr awr ginio yn gyfle i gymdeithasu a drafod materion y dydd.
Byddai Llywydd y Caban yn darllen o’r papur newydd ac yn cyhoeddi manylion am ddigwyddiadau lleol fel cyngherddau ac oedfaon capel. Anrhydedd oedd cael eich dewis yn Llywydd ar y Caban. Golygai bod gan y dynion gryn feddwl o’ch cymeriad a’ch barn.
Byddai stof ynghanol y stafell yn bwrw’i gwres ac eisteddai’r dynion o’i chwmpas yn ôl eu trefn - gyda’r bechgyn ieuengaf agosaf at y drws.
Rhwng y stof a chotiau gwlybion yn sychu, awyrgylch gynnes ond clos oedd yno yn ôl y sôn – a'r 'ffowntan' ddŵr yn dragwyddol ferwi at de'r awr ginio. Roedd hi'n anhepgor cadw'r ffowntan i ferwi drwy'r adeg!
Roedd yna gabanau i’r chwarelwyr hefyd, ac yn aml cynhelid eisteddfodau yn y naill neu’r llall o’r rhain. Caed pob math o gystadlaethau, gan gynnwys her adroddiad ac ambiwlans, a cystadlaethau canu i bartïon ac unigolion.
"Oeddach chi ddim ishio ‘Eco'r Wyddfa’ na 'im byd, papur bro 'wan. Odd 'na bobl yn dwad oedd, o Waunfawr, G'narfon, Llanrug, Cwm y Glo, rheiny gyd yn cwarfod yna wyddoch chi. ‘Edyn oeddach chi'n gwbod be oedd yn digwydd yn pentra yna."
"Champion o dân coch mowr fydda'n disgwl powb 'te."








Gadael sylw