Little My - Panic at the Museum
Enw: Panic at the Museum
Artistiad: Little My
Meithder: 1:59
» Lawrlwytho'r holl trac [4.6mb, MP3]
Am Little My
Mae Little My yn grŵp o wyth hyd at ugain o bobl o wahanol fandiau o Gaerdydd sy’n chwarae amrywiaeth o offerynnau yn cynnwys gitarau, steiloffonau, ffidilau a chaeadau biniau sbwriel. Mae eu caneuon yn fyr ac yn felys ac ychydig bach yn sentimental. Mae lleisiau bachgen a bachgen a merch a merch wedi’u gweu i mewn i haenau’r felodi yn cuddio’r geiriau lleddf. Wrth ganu’n fyw mae ganddynt wyth ‘my’ craidd ac ychwanegir atynt lle mae hynny’n bosibl gyda hyd at ddeuddeg o aelodau ‘lloeren’.
Disgrifiwyd y canlyniadau fel cerdded i mewn i wers cerddoriaeth yn yr ysgol gynradd…ond bod yr athro wedi’i wisgo fel arth a chath sy’n canu’r gitâr! Mae Little My erbyn hyn wedi rhyddhau saith record estynedig sy’n dwyn teitlau cronolegol, gan ddechrau gyda ‘little my's first’ hyd at ‘little my's seventh'. Rhyddhawyd rhai eu hunain a rhai ar labeli weepop! records a little pocket records.
Yr Ysbrydoliaeth
Ymatebodd Little My i ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n unigryw ymhlith amgueddfeydd Prydain am eu hamrediad o gelf ac arddangosfeydd gwyddonol.
Lleolir yr amgueddfa yn un o rannau prydferthaf y ddinas, yn ysblennydd yn ei charreg Portland gwyn, ac o’i chwmpas mae parciau hyfryd ac adeiladau godidog Neuadd y Ddinas a’r brifysgol.
Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn enwog am ei chasgliad celf - ymhlith y gorau yn Ewrop – sy'n cynnwys amrywiaeth ryfeddol o weithiau.
Mae'r oriel archeolegol, Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar, yn olrhain bywyd yng Nghymru o’r bobl gyntaf 230,000 o flynyddoedd yn ôl, ac yn cynnwys y pethau hynod sydd wedi cael eu gollwng, colli ac aberthu ar hyd y ffordd.
Mae'r oriel gwyddoniaeth natur yn arddangos amgylcheddau unigryw sy'n dangos bod Cymru'n gartref i dros 900 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, gyda hanes natur amrywiol o lan y môr i’r mynyddoedd.
Dilynwch daith hynod Cymru o ddechrau amser hyd heddiw yn yr oriel Esblygiad Cymru, gan gychwyn yn y gofod gyda'r Glec Fawr ac ar daith 4,600 miliwn o flynyddoedd.

Dangos sylwadau





