Lily Green
Enw: The Great Divide
Artistiad: Lily Green
Meithder: 3:46
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [9mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae Lily Green yn gerddor yng Nghaerdydd. Mewn byd cerddorol sy'n drwm dan ddylanwad y gitâr mae Lily yn swnio'n ffres a gwreiddiol.
Mae ei chaneuon yn feistrolgar, teimladwy, arbrofol a hawdd ar y glust.
Mae wedi'i hyfforddi fel cantores ac yn canu'r piano a'r ffliwt. Ymadawodd â'r byd clasurol am ei bod yn ei weld yn rhy gaeth. Wedyn dechreuodd ysgrifennu cerddoriaeth wreiddiol fodern gan gyfuno ei sgil fel cerddor a'i gallu i gyfansoddi'n flaengar a swynol.
Mae Lily yn asio offerynnau clasurol a thechnolegol ynghyd. Weithiau gellir adnabod y piano a'r harpsicord ond weithiau maent yn hollol anghyfarwydd ar ôl cael eu newid. Felly mae'n anodd lleoli Lily yn y byd cerddorol. Mae ei cherddoriaeth yn hynod wreiddiol.
Rhyddhaodd Lily ei record estynedig gyntaf yn hwyr yn 2006 ac erbyn hyn mae'n gweithio ar ei halbwm cyntaf o'r stiwdio. Mae ei cherddoriaeth wedi'i chwarae ar BBC6 ar Freakzone Stuart Maconie, gan Adam Walton a Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales ac ar raglen Organ ar Resonance FM.
Mae Lily yn perfformio'n rheolaidd yng Nghaerdydd ac wedi chwarae ar gyfer yr hyrwyddwyr Peppermint Patti, Loose, Meltdown, Freakshow, Twisted by Design, The Family a Pedigree Falcon. Mae'n perfformio ei chaneuon a chanu mewn arddull mwy blaengar hefyd. Bu'n perfformio yn Rove (fforwm Caerdydd ar gyfer cerddoriaeth arbrofol a byrfyfyr), Gŵyl Jas Caerdydd (gyda band Ashley John Long) ac yn ddiweddar gydag Orcop a Valley Lines o Gaerdydd yng ngŵyl Experimentica yn Chapter.
Ysbrydoliaeth

Yn ei geiriau ei hun:
Wrth fynd o gwmpas oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, roedd amgylchiadau darganfod llawer o'r gwrthrychau - mewn llynnoedd, corsydd, afonydd - wedi gadael argraff ddofn arnaf.
Yng Nghymru ac Ewrop mae hanes o bobl yr Oes Efydd a’r Oes Haearn yn rhoi pethau gwerthfawr mewn llefydd llawn dŵr.
Roedd y gwrthrychau hyn o werth ariannol ond hefyd yn arwyddocaol iawn. Yn oriel Gwreiddiau roedd y pethau'n cynnwys crochanau mawr i goginio bwyd a brigwn haearn Capel Garmon. Roeddynt yn hardd ond hefyd yn ganolbwynt i'r cartref ac yn ddefnyddiol o ran coginio a gwresogi.
Cefais f'ysbrydoli gan ddwy ochr y gwrthrychau. Yn gyntaf gan y llefydd lle cawsant eu darganfod. Roedd y rhain yn rhai hudol llawn dŵr sy'n byrth i'r byd arall ac roedd y gwrthrychau'n offrymau i'r duwiau.
Rhywbeth arall diddorol am y gwrthrychau yw bod llawer wedi'u difrodi’n fwriadol fel na fyddai modd eu defnyddio ond gan fodau ym myd yr ysbrydion.
Yn ail cefais fy nharo gan y ffaith mai gwrthrychau gwerthfawr a gynigiwyd i'r duwiau. Beth roedd y bobl yn ei geisio ganddynt? Am beth roeddynt yn chwilio?
Yn fy nghân The Great Divide roeddwn am gyfleu hud yr arallfydol a gofyn cwestiwn am beth sbardodd y bobl hyn i offrymu gwrthrychau mor werthfawr.

Dangos sylwadau





