Joy of Sex
Enw: Bring Me The Head Of Victor Hugo
Artistiad: Joy of Six
Meithder: 2:08
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [4.9mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae’r band Joy of Sex yn cynnwys tri dieithryn ac mae ganddynt ddwywaith gymaint o offerynnau ag o aelodau.
Cyfarfu’r aelodau drwy’r mân hysbysebion, ac maent yn cytuno ar nifer o bethau; caneuon byr, rhythm, ailadrodd a s?n. Maent wedi cael eu disgrifio fel:
“the best slice of experimental ear-sex you'll ever be subjected to"
"potentially cool"
"crunchy"
"a heavier Fall"
"spiky, minimalist, arty"
"goes off in unexpected directions"
"[potentially] the best thing ever"
"a tonic that should come in a wraparound sleeved 7inch"
"one of the most intriguing propositions to emerge from the Welsh capital for some time"
"fantastically palatable"
"a dream to be with"
"A two-boy/one girl trio as original as they are brilliantly shambolic"
"speedy, experimental and pleasing"
"they spank a spot weld harder than a fruit bat"
"Whether you are old enough to have listened to Peel in the early 80s or simply feel he was a bench mark for music appreciation, you should and WILL love Joy Of Sex"
"Stupidly good looking and cool"
"Great in every single way"
Am y trac:
"Fe’m trawyd gyda’r ffordd roedd cerfluniau Rodin wastad yn gwneud i’r testun edrych naill ai’n ddeniadol neu’n urddasol, er gwaethaf cynnwrf a natur gorfforol ei arddull.
Yn fyr, does fawr ddim byd hyll i’w weld yn y gwaith (gwaith Rodin nac artistiaid eraill - mae portreadau’n enghraifft amlwg o hyn), ac i ni, mae’r syniad bod celf yn dileu’r hylltra yn ddiddorol.
Mewn sawl ffordd, mae celfyddyd wedi effeithio ar ein safonau ni heddiw am yr hyn a ystyrir yn brydferth. Petai mwy o hylltra yng nghelfyddyd y gorffennol, efallai byddai'n safonau ni’n wahanol heddiw. Wrth gwrs, nid gweld bai ar waith Rodin yr ydyn ni - rydyn ni’n hoff o’i waith. Mae’r gân yn cyfeirio at nifer o weithiau gan Rodin ac mae’r thema bod celfyddyd yn cuddio hylltra yn rhedeg drwyddi."
Ysbrydoliaeth

Ganed Rodin ym 1840 i deulu dosbarth gweithiol ym Mharis. Hunan-addysgedig ydoedd i raddau helaeth, a dechreuodd ddarlunio yn ddeg oed.
Gwnaeth gais i’r École des Beaux Arts, ysgol gelf enwocaf Paris, ond cafodd ei wrthod deirgwaith. Yn lle hynny, aeth i Ysgol y Celfyddydau Addurniadol ym Mharis, a threulio dwy ddegawd yn gweithio i nifer o grefftwyr.
Daeth yn brif gynorthwyydd yn stiwdio’r cerflunydd Ffrengig Albert Ernest Carrier-Belleuse, a bu’n gweithio yno tan 1872. Ym 1875, ymwelodd Rodin â’r Eidal, lle tynnodd ar weithiau Donatello a Michelangelo, a gafodd effaith ddofn ar ei gyfeiriad fel artist. Erbyn 1900, yr oedd yn bendant wedi gwneud enw iddo’i hun fel artist.
Yn hytrach na chopïo ystumiau academaidd traddodiadol, arferai Rodin ddefnyddio modelau amatur, perfformwyr stryd a dawnswyr. Byddai ei fodelau yn symud o gwmpas, ac yr oedd eu hystum yn naturiol. Byddai’n gwneud brasluniau sydyn mewn clai, a’u mireinio yn nes ymlaen, yna’u castio mewn efydd neu eu cerfio o farmor.
Ym 1883 caniataodd y bardd a'r nofelydd Ffrengig enwog, Victor Hugo (1802-85) i Rodin wneud model penddelw ohono, o frasluniau yn hytrach nag ar sail eisteddiad ffurfiol. Meddai'r cerflunydd wrth gofio: 'Roeddwn yn meddwl i mi weld Iau Ffrengig; pan deuthum i'w adnabod yn well, roedd yn debycach i Herciwl'.
Cynhyrchodd Rodin nifer o fersiynau efydd a marmor o'r pen. Disgrifiodd Syr Goscombe John ef fel 'tua'r gorau ganddo o'r math hwnnw ac yn enwog ar hyd a lled y byd. Mae'n waith arbennig o onest'.








Gadael sylw