Jakokoyak - Dan Glo
Enw: Dan Glo
Artistiad: Jakokoyak
Meithder: 6:22
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7.7mb, MP3]
Am Jakokoyak

Mae Jakokoyak yn broject cerddoriaeth drydanol gartrefol gyda thueddiadau tuag at werin seicedelig.
Plentyn meddwl Rhys Edwards yw'r 'Gwerindrydan'. Mae Rhys yn hanu o'r Wyddgrug, sir Fflint. Ar ôl iddo ddechrau recordio yn y coleg gan weithio ar ei ben ei hun dechreuodd newid ac archwilio hen allweddellau a phedalau effeithiau. Cafodd rwydd hynt drwy'r recordiadau cynnar hyn i fynd i astudio cerddoriaeth ôl-radd ym Mangor.
Ar ôl blwyddyn o adeiladu ar ei wybodaeth o recordio, yn 2003 dechreuodd pobl sylwi ar Jakokoyak. Enillodd wobr Y Ffatri Bop am Dalent Newydd Orau a chafodd ei albwm newydd wobr Albwm Gorau yng ngwobrwyon BBC Radio Cymru.
Cafodd Am Cyfan Dy Pethau Prydferth Jakokoyak ei ganmol gan y beirniaid (gyda llaw, mae'r enw'n dod o gyfieithiad gwael ar boster ar wal Undeb Myfyrwyr Caerdydd) a'i ail-ryddhau yn Siapan yn 2004.
Ers hynny mae wedi cefnogi Super Furry Animals yn Siapan a pherfformio yn stiwdio Maida Vale gyda Mogwai. Cafodd y record estynedig Flatyre ei rhyddhau yn 2006 a phleidleisiwyd y gân Eira yn record yr wythnos ar orsaf radio Lundeinig Xfm.
Y trac Ymateb yn ei eiriau ei hun:
“Fel cynnyrch o'r 80'au, streic y Glowyr oedd fy mhrofiad cyntaf o'r diwydiant glo. Roedd anghyfiawnder yr holl ddirywiad, y tlodi cymdeithasol a'r hyder a darodd y bobl a'r diwylliant yn golygu fod yr holl ddatblygiadau yn anodd eu derbyn. Er bod natur wedi cofleidio'r tirwedd unwaith eto, mae'r dirywiad glo yn graith sydd yn gwrthod diflannu.
O ran y trac ei hun, dwi wedi torri fyny synnau o'r Pwll Mawr, yn ogystal â dyfyniadau gan Margaret Thatcher. Mae'r trac yn ceisio canolbwyntio ar yr ymdeimlad o anghyfiawnder, a'r anallu i ddod dros y boen a achoswyd oherwydd colli'r diwydiant glo, a rŵan pan fo pobl yn teimlo'n nostalgic am yr holl ddiwydiant a'i ffocws ar fywyd cymunedol.”
Yr Ysbrydoliaeth

Ymatebodd Jakokoyak i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, yn benodol yn edrych y nôl ar hanes a dirywiad raddol y diwydiant glo yng Nghymru ar effaith ar gymunedau lleol.
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, Cymru oedd un o wledydd cynhyrchu glo pwysica'r byd.
Ym 1913, cynyrchwyd dros 600 o byllau mwy na 60 miliwn o dunelli o lo. Roedd un o bob deg o bobl Cymru‘n gweithio yn y diwydiant glo a llawer mwy’n dibynnu arno am eu bywoliaeth.
Erbyn diwedd yr 20fed ganrif, dim ond un pwll dwfn oedd ar ôl yng Nghymru. Roedd y diwydiant glo, sef grym diwydiannol, cymdeithasol a gwleidyddol pwysicaf y Gymru fodern, bron wedi diflannu.
Mae cannoedd o byllau wedi cau dros y 200 mlynedd diwethaf, a does dim ar ôl i gofio'r rhan fwyaf ohonynt. Big Pit yw'r eithriad. Mae’r pwll yma a fu’n cyflogi 1,300 o lowyr ac yn cynhyrchu dros chwarter miliwn o dunelli’r flwyddyn ar un adeg, wedi cael ei gadw i'r oesoedd a ddêl fel amgueddfa o safon ryngwladol.
Roedd llwyddiant maes glo'r gogledd yn dilyn hynt y diwydiant haearn lleol. Rhwng 1870 a 1913, cafodd rhwng dwy a thair miliwn tunnell o lo'r flwyddyn eu cynhyrchu. Ond, yn raddol, dirywiodd y diwydiant ac erbyn 1974 dim ond dau bwll dwfn oedd yn dal i weithio. Caeodd y Parlwr Du, pwll olaf y gogledd, ym 1996.
Mae maes glo’r de’n ymestyn o Bont-y-pŵl yn y dwyrain i Fae Sain Ffraid, Sir Benfro, yn y gorllewin. Roedd ail hanner y 19eg ganrif yn gyfnod o ffyniant yn y de: erbyn 1913, roedd 57 miliwn o dunelli’n cael eu cynhyrchu a 232,800 o ddynion yn gweithio mewn 620 o byllau.
Ond roedd blynyddoedd cynnar y 1920au yn gyfnod hir o ddirwasgiad diwydiannol: erbyn 1936, roedd 241 o lofeydd wedi cau a’r gweithlu wedi ei haneru i 130,000.
Roedd 135 o byllau mawr yn dal i weithio pan gafodd y diwydiant ei wladoli ym 1947. Ond parhaodd y dirywiad araf, ac erbyn 2004 dim ond un pwll dwfn oedd yn dal i weithio.
Mae Big Pit yn lle arbennig. Mae'n adrodd stori hynod a chyffrous cloddio am lo, a sut ffurfiodd y diwydiant y Gymru fodern. Yma cewch glywed am ennill a cholli, llawenydd a thrychineb, cyfoeth a newyn yn ystod un o gyfnodau mwyaf dramatig Cymru a'r byd.








Gadael sylw