Gindrinker
Enw: Gorsedd
Artistiad: Gindrinker
Meithder: 4:49
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7mb, MP3]
Bywgraffiad

Er eu bod wedi bodoli ers Chwefror 2004, ni wnaeth aelodau diog y band Gindrinker unrhyw beth o gwbl tan y gaeaf y flwyddyn honno.
Mae aelodau’r band yn cynnwys Gareth Middleton, sy’n chwarae’r gitâr ac yn rhaglennu, peiriant drymiau yn cadw’r curiad a DC Gates yn canu a chwarae’r cornet. Maent yn chwarae math minimol a diwydiannol, bron, o roc garage sy’n tueddi i hollti barn cynulleidfaoedd.
Mae Gindrinker wedi perfformio gydag amrywiaeth o grwpiau, yn cynnwys The Fall, Super Furry Animals, Whitehouse, a DJ Scotch Egg.
Y band:
“Enw’r trac yw Gorsedd, ac fe’n hysbrydolwyd i’w gyfansoddi ar ôl ymweliad â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae’n bortread dychmygol o hanes Iolo Morgannwg yn ‘darganfod’ defodau Cymreig hynafol. Mae’n cynnwys dau brif ddiddordeb y band, sef hanes cymdeithasol a straeon rhyfedd.
Faint o’r ‘ffeithiau hanesyddol’ yr ydym yn eu dysgu wrth dyfu sydd, mewn gwirionedd, yn ddim mwy na gobaith ofer neu greadigaethau ffug?”
Yr Ysbrydoliaeth

Ysbrydolwyd y gân hon gan Deyrndlysau Gorsedd y Beirdd sydd ar ddangos yn Oriel 1 yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn gymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i genedl, iaith a diwylliant Cymru. Mae’n gweithredu drwy gyfwng y Gymraeg yn unig.
Sefydlwyd y gymdeithas gan Edward Williams, neu Iolo Morganwg (1747-1826). Er bod Iolo’n athrylith, roedd hefyd yn dipyn o freuddwydiwr ac yn ffugiwr. Roedd yn gaeth i’r cyffur lodnwm ac mae’n debygol fod hyn wedi effeithio ar ei olwg o’r byd. Credai bod beirdd Cymru wedi etifeddu traddodiad y derwyddon Celtaidd.
Cynhaliwyd yr Orsedd gyntaf erioed ar ddygwyl Ifan, 21 Mehefin 1792, ar Primrose Hill yn Llundain. Heddiw mae Gorsedd y Beirdd yn gyfrifol am rwysg yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys seremoni’r Cadeirio (ar gyfer barddoniaeth mesur caeth), y Coroni (ar gyfer barddoniaeth canu rhydd) a seremonïau’r Fedal Ryddiaith ar brif lwyfan yr ŵyl.
Yn y seremonïau hyn, dan arweiniad yr Archdderwydd, mae pawb sy’n cymryd rhan yn gwisgo gwisgoedd gwyn, gwyrdd a glas, yn dibynnu ar eu statws.
Mae’r gwrthrychau yn Sain Ffagan yn cynnwys y Cleddyf Mawr, y Corn Gwlad a choron a dwyfronneg yr Archdderwydd. Pob Mehefin ac Awst, cânt eu tynnu o’r cas arddangos i’w defnyddio yn seremonïau swyddogol yr Orsedd.








Gadael sylw