The Gentle Good
Enw: St Fagans woodlands as seen through the eyes of an owl
Artistiad: The Gentle Good
Meithder: 8:33
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7mb, MP3]
Bywgraffiad

Enw go iawn The Gentle Good yw Gareth Bonello, brodor o Gaerdydd sydd hefyd yn ganwr a chyfansoddwr caneuon gwerin.
Mae ei lais gonest a thyner yn gweddu’n addas â’i steil gitâr cymhleth sy’n dangos ôl dylanwad chwaraewyr gitâr dawnus adfywiad cerddoriaeth werin y 1960au. Gall droi ei law at nifer o wahanol offerynnau, ac mae ei recordiadau’n cynnwys haenau o drefniannau llinynnol ysgafn yn ogystal â banjos, mandolinau a chlychau taro.
Yn dilyn cyfres o recordiau a ryddhaodd ar ei liwt ei hun, rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘While you slept I went out walking’ gan recordiau Gwymon ym mis Tachwedd 2008. Cafodd yr albwm dderbyniad ffafriol yn y wasg, a chafodd Gareth ei gymharu ag artistiaid fel Nick Drake, Martin Carthy, Bert Jansch, John Renbourn, John Martyn a Donovan mewn cyhoeddiadau fel Mojo a’r Guardian. Yn ogystal â hyn, clodforodd Bob Harris yr albwm ar ei sioe nos Sadwrn.
Mae’r Gentle Good yn berfformiwr cyfareddol sy’n gallu hudo cynulleidfaoedd â’i gitâr drwy blethu straeon tywyll trwy ei ganeuon gwerin trasig.
Yn ddiweddar mae Gareth wedi dechrau perfformio ag adran linynnau - sy’n creu sŵn llawnach a mwy cyflawn, tebycach i’r hyn a glywch ar ei recordiau.
Mae The Gentle Good yn berfformiwr byw profiadol dros ben sydd wedi swyno cynulleidfaoedd yma a thramor mewn gwyliau fel Celtic Connections, Lorient Interceltique, The Green Man, End of the Road, Latitude, Gŵyl Sŵn, In the City a South by Southwest.
Yn haf 2009 bydd The Gentle Good yn perfformio yng Ngŵyl y Green Man, Glastonbury a Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington DC.
Mae Gareth hefyd yn aelod o’r band gwlad y Silver Spurs gydag Eli Green ac Ellie Harwood, sydd yn llawer o hwyl.
Yr Ysbrydoliaeth
Mae coedwigoedd wedi ysbrydoli pobl ers cyn cof.
Roedd coedwigoedd yn ffynhonnell tanwydd, bwyd, offer a deunyddiau adeiladu ar gyfer ein cyndeidiau Celtaidd. Roeddynt yn rheoli eu bywydau, nid mewn ffyrdd ymarferol yn unig, ond gan eu bod yn ffynonellau ysbrydoliaeth ar gyfer eu diwylliant a’u chwedlau.
Er ein bod wedi colli llawer o’n coedwigoedd erbyn hyn, maent yn parhau i fod mor bwysig ag erioed fel adnodd ymarferol, fel llefydd i sbarduno’n creadigrwydd ac fel cartref i fywyd gwyllt.
Plannwyd coedwigoedd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar ddechrau’r 20feg ganrif gan Iarll Plymouth, perchennog castell Sain Ffagan a’r tiroedd o’i amgylch. Cawsant eu plannu yn wreiddiol i ddarparu noddfa i adar gwyllt, ac i fod yn le i’r Iarll a’i deulu fwynhau yn yr awyr agored. Bellach maent yn cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, o fadfallod cribog i ystlumod pedol lleiaf.
Mae’r coedwigoedd hefyd yn gartref i nifer o rywogaethau o adar, yn cynnwys tylluanod brych sy’n nythu yn y coed. Mae’r helwyr nosol tawel hyn yn ychwanegu ymdeimlad o ddirgelwch mewn unrhyw goedwig.
Mae Gareth wedi treulio’r blynyddoedd diwethaf yn codi ymwybyddiaeth am goedwigoedd Sain Ffagan. Gallwch ymweld â’n coedwigoedd a dilyn y llwybr i’r Pentref Celtaidd i ddysgu mwy am ei hanes a’r bywyd gwyllt sydd yno. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/coedwigoedd.

Dangos sylwadau





