Dave Village
Enw: For the love of steam (an ode to Richard Trevithick)
Artistiad: Dave Village
Meithder: 5:24
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7mb, MP3]
Bywgraffiad

Daw amser ym mywyd pob dyn pan fydd yn derbyn cais i gyfansoddi cân am drên – daeth fy amser i yn 2009. Dyma gelwydd noeth, wrth gwrs. Chefais i ddim cais i gyfansoddi cân am drên yn benodol, ond i gyfansoddi cân am wrthrych o Amgueddfa Cymru [sydd ddim yn digwydd i bawb, ond peidiwch a gadael i hynny eich stopio chi].
Rydw i wedi cyfansoddi caneuon o’r blaen – rhai ohonynt am Dystion Jehofa, eraill am galonnau bregus, dewiniaid heb stafelloedd neu lygaid merched. Yn gyffredinol, mae’r pynciau hyn yn emosiynol gan fod cysylltiad uniongyrchol rhyngof i a’r pethau a’u sbardunodd (ydw, rwy’n nabod dewiniaid). "Pa wrthrych o’r amgueddfa allai f’ysbrydoli i gyfansoddi cân?” meddyliais. Doedd dim angen meddwl yn hir cyn dewis y trên sydd ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Replica gweithredol yw e, ac mae modd ei wylio’n mynd am dro unwaith y flwyddyn. Dwi’n hoffi trenau.
Watt? Nage, adeiladwyd y locomotif gwreiddiol gan Richard Trevithick ym mhell yn ôl tua dechrau’r 19eg ganrif. Mae’n rhan o’r siwrne beiriannyddol hir gafodd e â stêm. Dwi wedi ymchwilio ryw ychydig i fywyd Trevithick yn bennaf drwy ddarllen llyfr clawr meddal gan Anthony Burton – sy’n lyfr da iawn, gyda llaw.
Waeth beth am hynny, sut es i ati i gyflawni’r dasg? I ddechrau, tybiais y byddwn yn defnyddio’r holl dechnegau a’r offer recordio sydd gennyf wrth law i greu rhywbeth anferthol, ond wedi ail-feddwl, penderfynais gadw pethau’n syml.
Mae fersiwn derfynol y gân yn defnyddio gitâr acwstig, ychydig o ganu a finne’n chwarae ambell nodyn ar y trwmped ceg. Rwy’n drwmpedwr eithriadol o ddi-brofiad – bu’n rhaid i mi wrando ar lawer o Dizzy Gillespie i geisio dysgu ambell dric. Rwyf wedi galw’r gân yn ‘For the love of steam’.
For the Love of Steam (an ode to Richard Trevithick)
G - A# maj7b5 – G - E - D - A
E
Six generations ago
When the world it ran slow
When feelings were deep
Yet the coal could be found shallow
B m C m
Only now do I appreciate your legacy
And notice that all the sleepers parade in single file for thee
C A E
From the Cornwall mines to the tram-lines
Of the Glamorganshire canal
In the shadows of your footsteps
You have many that follow you
Now I do too
B m E
You are the first that we know of,
Your tall chimney improved the air-circulation of,
The five ton engine beneath,
The first steam train locomotive.
[Guitar solo - click clack]
C A E
Oh, for the love of steam
He spent a life fulfilling his dream
To create the perfect steam machine
Oh, for the love of steam
In high-pressure century nineteen
A# m AM E
Only now do I appreciate your legacy
And notice that all the sleepers parade in single file for thee
All for the love of steam
All for the love of steam
[Mouth Trumpet solo]
All for the love of steam
[Mouth Trumpet solo]
G - A# maj7b5 – G - E - D - A E Six generations ago When the world it ran slow When feelings were deep Yet the coal could be found shallow B m C m Only now do I appreciate your legacy And notice that all the sleepers parade in single file for thee C A E From the Cornwall mines to the tram-lines Of the Glamorganshire canal In the shadows of your footsteps You have many that follow you Now I do too B m E You are the first that we know of, Your tall chimney improved the air-circulation of, The five ton engine beneath, The first steam train locomotive. [Guitar solo - click clack] C A E Oh, for the love of steam He spent a life fulfilling his dream To create the perfect steam machine Oh, for the love of steam In high-pressure century nineteen A# m AM E Only now do I appreciate your legacy And notice that all the sleepers parade in single file for thee All for the love of steam All for the love of steam [Mouth Trumpet solo] All for the love of steam [Mouth Trumpet solo]
Yr Ysbrydoliaeth

Locomotif stêm Richard Trevithick
Ar 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr-Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.
Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori'n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a'u defnyddio yn ei injans ffordd. Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i'r posibilrwydd o osod injan o'r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa'r gamlas yn Abercynon.
Mae'n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o'r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini'r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p'un a allai'r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu'r wagenni gwag yn ôl wedyn.
Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror. Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith nôl a barodd i'r boeler golli dŵr, felly bu'n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd – ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!
Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i'r cledrau, ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.
Crëwyd yr atgynhyrchiad o'r locomotif sydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau heddiw gan ddilyn dogfennau a chynlluniau gwreiddiol Trevithick, sydd yn y National Museum of Science and Industry bellach. Aeth ar ei thaith gyntaf ym 1981 ac, yn rhyfedd, cafodd yn union yr un broblem â'r injan wreiddiol – torrodd y cledrau!
Mae locomotif Trevithick yn anhygoel o bwysig – does dim dwywaith am hynny. Ym 1800, y ffordd gyflymaf i bobl deithio ar y tir oedd ar gefn ceffyl; ganrif yn ddiweddarach, roedd system reilffordd helaeth dros y byd gyda threnau'n teithio'n rheolaidd ar gyflymder o hyd at chwedeg milltir yr awr.
Fe ddigwyddodd y trobwynt hollbwysig hwn ym mis Chwefror 1804, yng Nghymru.

Dangos sylwadau





