Dan Amor - Trysor Glas
Enw: Trysor Glas
Artistiad: Dan Amor
Meithder: 5:43
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7.5mb, MP3]
Am Dan Amor
Mae Dan Amor wedi bod yn sgwennu a recordio caneuon yn Gymraeg a Saesneg ers deng mlynedd.
Mae'n rhyddhau ar ei label ei hun, Recordiau Cae Gwyn. Mae ei gerddoriaeth wedi'i chwarae ar wahanol orsafoedd radio gan gynnwys BBC Radio Cymru, Radio 1, Radio Wales, a Radio Merseyside. Mae'n perfformio dros Gymru benbaladr yn gyson.
Mae ei gân Trysor Glas wedi'i recordio fel rhan o Sesiwn C2 BBC Cymru gyda Huw Stephens.
Dan Amor: “Y Trysor Glas yw trysor glas y llechi, ac mae’r gân yn myfyrio ar gau Chwarel Dinorwig ym 1969.
Roeddwn eisiau ysgrifennu cân a oedd yn sôn am y golled a ddaeth yn sgil cau’r chwarel ym 1969, ond a oedd hefyd yn clodfori hanes a chymeriad y Chwarel a’r gweithwyr - mae’r gân felly yn galaru ac yn dathlu’r un pryd.
Rwyf yn cyfeirio at y broses anodd o gloddio am y llechfaen a’i phrosesu yn y pennill cyntaf. Mae’r ail bennill yn dathlu’r gymuned unigryw a oedd yn bodoli o fewn y chwarel ei hun. Mae’r cytgan yn ceisio adlewyrchu teimladau’r gweithwyr a phobl y dref yn ystod yr wythnos y caewyd y chwarel.”
Yr Ysbrydoliaeth
Mae trac Dan Amor, Trysor Glas, yn ddarn myfyrgar a ysbrydolwyd gan ddiwedd y diwydiant llechi mewn ymateb i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.
Bu dynion yn cloddio llechi yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynddoedd. Defnyddiwyd llechi i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon - ac yng nghastell mawreddog Edward 1af yng Nghonwy.
Ffrwydrodd y diwydiant llechi gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn y 18fed ganrif. Wnaeth bentrefi bychain, fel Manceinion, chwyddo'n drefi mawr ac yna'n ddinasoedd yn sgîl dyfodiad ffatrïoedd a gweithfeydd. Daeth galw mawr am lechi i doi'r terasau hirion o dai a adeiladwyd yn gartrefi i'r gweithwyr - heb sôn am y ffatrïoedd a'r ffowndris eu hunain.
Ym 1787 agorwyd 'chwarel fawr newydd' Dinorwig, ac erbyn 1870au roedd yn gyflogi dros 3,000 o ddynion. Erbyn hyn, cloddio llechi oedd un o ddiwydiannau pwysicaf Cymru, yn gynhyrchu dros bedwar rhan o bump o holl lechi Prydain yn y cyfnod hwn. Yn 1882 cynhyrchodd chwareli Sir Gaernarfon dros 280,000 o dunnelli o lechi toi gorffenedig; ac ym 1898 cyrhaeddodd y fasnach lechi yng Nghymru'n gyffredinol ei hanterth pan gynhyrchodd 17,000 o ddynion 485,000 tunnel o lechi.
Roedd Streic Fawr y Penrhyn ar droad y ganrif wedi effeithio’n aruthrol ar fasnach lechi Arfon yn gyffredinol. O’i chymharu â’r sefyllfa cyn y Streic, am gyfnod o dair blynedd, prin y daeth llechi o gwbl o’r chwarel enfawr Dinorwig. Trodd llawer cwmni a fu’n prynu llechi Cymru at gyflenwyr eraill yn ystod y cyfnod hwn ac ni ddaethant fyth yn ôl. Effeithwyd ymhellach ar y diwydiant llechi gan yr Ail Ryfel Byd, pan ddirywiodd y galw am lechi adeiladu yn ddirfawr ac aeth llawer o’r dynion i’r fyddin.
Er y bu cyfnod digon prysur o adeiladu yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, ni ddaeth y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru fyth yn ôl i’w lle fel y bu. Yn ystod y pumdegau daeth yn amlwg bod y chwarel wedi ei gweithio allan mewn gwirionedd, ac er ymdrechion i ddod o hyd i graig dda ac arallgyfeirio, caeodd chwarel Dinorwig yn ddisyfyd ym mis Awst 1969.

Dangos sylwadau






