Dafydd ap Llwyd
Enw: Moch Sain Ffagan
Artistiad: Dafydd ap Llwyd
Meithder: 4:12
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [10.1mb, MP3]
Bywgraffiad

Daeth Dafydd ap Llwyd i'r amlwg yn gyntaf yn 2008 wrth i Lisa Gwilym chwarae'r darn offerynnol "Y dyn bach sy'n byw mewn potel" ar ei slot ar Radio Cymru.
Dafydd ap Llwyd yw Dafydd Wyn a Huw Llwyd. Maent wedi bod yn recordio yn ddigidol ers 2006, er rhoddwyd ambell i demo i'r 4-trac yn ol yn y nawdegau. Mae'r ddau yn wreiddiol o ardal y Tincer yng Ngheredigion ond erbyn hyn wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd.
Cafodd eu can "O Fri" remics gan Dubrobots sydd wedi cael ei chwarae fwy nag unwaith ar C2 ar BBC Radio Cymru yn 2009, ac erbyn hyn sydd wedi ei ryddhau gan Nasty Vulture Recordings ar iTunes i'w lawrlwytho.
Perfformiodd Dafydd a(p) Llwyd yn Oxjam Caerdydd yn Nos Da yn mis Hydref 2009; achlysur a chododd £450 i'r elusen drwy nawdd sylweddol o Fwydydd Castell Howell a Canolfan CAD Caerdydd a thrwy charedigrwydd Sian Lloyd a recordiodd ei sengl "Rhagolygon y Tywydd" gyda Dafydd ap Llwyd tuag at yr achos da; mae'r sengl yna ar gael i'w lawrlwytho o iTunes hefyd.
Mae Dafydd Wyn hefyd yn perfformio yn y Saesneg fel www.myspace.com/monkeyseamonkeydoo.
Ysbrydoliaeth

Mae ‘Moch San Ffagan’ yn ymateb i ymweliad teuluol i Sain Ffagan a'r moch sydd ar y fferm yno.
Mae’r dulliau amaethu yn Sain Ffagan yn dilyn arferion amaethu hanesyddol yng Nghymru mor agos â phosibl. Mae’r mathau traddodiadol o dda byw sydd yn gyffredin i Gymru i’w gweld ym mhob rhan o’r amgueddfa.
Mae’r mochyn Cymreig yn ddigon tebyg i’r Large White ac fe’i croesir yn aml â’r brid hwnnw wrth fagu moch heddiw.
Ar un adeg roedd tylciau mochyn crwn fel welwch yn Sain Fagan yn gyffredin yn ne Cymru. Mae’n debyg yr adeiledid y rhan fwyaf ohonynt tua diwedd y 18ed ganrif ac yn ystod degawdau cynnar y 19eg ganrif.
Cyn hyn byddai’r rhan fwyaf o foch yn crwydro’n rhydd neu’n byw mewn gorlannau bychain neu ffaldau. Adeiledid tylciau crynion o gerrig sychion, gan ddefnyddio techneg o’r enw cyrbelu i’w toi. Gyda’r dechneg honno mae pob cylch o gerrig yn mynd yn raddol feinach tua phig y twlc nes ffurfio strwythur cromennog.
Daw bron i bob un o’r pedwar ugain neu fwy o enghreifftiau a gofnodwyd hyd yma yng Nghymru o’r de. Ceid tylciau tebyg, llai i gadw gwyddau a hwyiaid.
Defnyddid y dechneg hynafol hon i gartrefu pobl ac anifeiliaid o’r cyfnod cyn-hanesyddol ymlaen. Ceir enghreifftiau o dai corbelog mewn rhannau o Ffrainc a’r Eidal hyd heddiw. Mae’r muriau o gerrig sychion o amgylch yr adeilad yn Sain Ffagan yn nodweddu rhai rhannau o dde-ddwyrain Cymru.
Roedd tylciau petryal yn fwy cyffredin o lawer yng Nghymru, ac mae enghreifftiau o’r rhain i’w gweld ar safle’r amgueddfa yn Ffermdy Llwyn-yr-Eos, tai Rhyd-y-car a bwthyn Nantwallter.

Dangos sylwadau






