Cymbient
Enw: Layers, Degradation and Underlaying Paints
Artistiad: Cymbient
Meithder: 9:34
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [21.9mb, MP3]
Am Cymbient

Wrth i Derrero dawelu, parhaodd Andy Fung i ysgrifennu a recordio cerddoriaeth gan arwain at sefydlu Cymbient, sy’n uno caneuon mwy traddodiadol gyda pherfformiadau cerddoriaeth arbrofol mewn sioeau celf.
Rhowch Brian Wilson mewn camper van gydag amps retro a steiloffon gwreiddiol, ‘clear spot’ gan Beefheart ar y stereo, ac anelwch am draethau Cymru gyda Cymbient.
Nid yw’r band, bob un yn artistiaid, yn poeni am borthi’r peiriant marchnata didostur a gweld cerddoriaeth fel estyniad o gelfyddyd. Eu nod yn hytrach yw rhyddhau albwm yn rheolaidd.
Bellach, wedi rhyddhau dau albwm - 'The Drive Home' (2005) ac 'Out on the Waves' (2008) – cychwynnodd Cymbient ar eu trydydd albwm yn 2009. Recordiwyd rhai darnau offerynnol eisoes yn stiwdio 'Tŷ Drwg'.
Ar gyfer y prosiect hwn, ymwelodd Andy Fung ag adran gadwraeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac ysgrifennwyd y trac gyda rhai o ganfyddiadau yr ymweliad hynny mewn cof.
Yn y geiriau ac ym mhlethiad y darn, ceir synnwyr o haenau wedi’u seilio ar alaw a harmoni – nodwedd o waith y band.
Andy Fung - Drymiau, Gitâr a Llais
Andy Taylor - Gitarau
Ann Summerhayes - Allweddellau a Llais
James Charlton - Steiloffon a Gitâr
John Pulman - Gitâr bas
Yr Ysbrydoliaeth
Mae trac y band o dde Cymru, Cymbient, ‘Layers, Degradation and Underlaying Paintings’, yn ymateb i gadwraeth celf.
Mae peintiadau yn cynnwys nifer o haenau – sylfaen, grwnd, yr haenau paent a’r farnais. Er nad yw’n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt wrth edrych ar lun ar y wal, mae bob un yn effeithio ar ansawdd a lliw yr haenau olynol ac yn ffurfio rhan o’r ddelwedd derfynol.
Mae’r gwarchodwr yn archwilio peintiadau gan ddefnyddio technegau diagnostig gwahanol er mwyn cadarnhau natur y gwahanol haenau. Mae hyn yn effeithio ar ei ddewis o driniaeth, yn ogystal â’r dull o drafod, arddangos a storio.
Mae’r cyfuniad o’r holl amodau hyn yn effeithio ar fwynhad y gwyliwr o’r peintiad, heb iddo fod yn ymwybodol ohonynt fel dylanwadau unigol.
Yn gyn fyfyrwyr celf, denwyd aelodau’r band at gasgliad yr Amgueddfa a’r broses o gadwraeth.
Meddai Andy Fung o Cymbient:
“Mae ein trac wedi’i seilio ar dair cân – fel cadwyn. Roeddem yn ceisio portreadu’r gwahanol haenau mewn gwaith celf ac amlygu’r haenau sydd o dan y paent, na allwch eu gweld yn y lle cyntaf.
“Roedd diddordeb mawr gan y band, ac roeddent yn awyddus iawn i gyfranogi yn y prosiect, felly cyflwynais y syniad cychwynnol iddynt ac fe ychwanegodd pawb ato – dyna’n harddull arferol.”








Gadael sylw