Circa Regna Tonat
Enw: Atta
Artistiad: Circa Regna Tonat
Meithder: 5:19
» Lawrlwytho'r holl trac [4.9mb, MP3]
Am Circa Regna Tonat
Ffurfiwyd Circa Regna Tonat yn Ionawr 2006 gan Adam Lewis, Daniel Barnett a Jonny Lee Evans drwy eu cariad at gerddoriaeth arbrofol. Yr olaf i ymuno â’r band oedd y chwaraewr dwbl bas, Rhys Griffiths. Ar unwaith dechreuodd y band fagu enw da fel band byw gwych ar y sîn yn ne Cymru. Yn 2006 recordion nhw eu record estynedig gyntaf o’r enw 'Burning Witches For Glue', a blwyddyn wedyn cafwyd yr ail record ‘Lightswitch Impulses' oedd yn arbrofol y tu hwnt.
Mae dilyniant cwlt i’r ail record oherwydd iddi ddefnyddio dau ddwbl bas ac udiadau sgitso-sŵn wedi’u cymysgu gyda cherddoriaeth offerynnol flaengar, ôl-roc. Yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf mae’r band wedi sicrhau cyfleoedd proffeil-uchel i gefnogi bandiau megis Taint, Noxagt, An Albatross, Rolo Tomassi ac yn fwy diweddar Manatees, Part Chimp a The Airborne Toxic Event. Ar hyn o bryd mae Circa Regna Tonat newydd orffen record i’w rhyddhau’n fuan 'Dance-off with a Triceratop’, sydd wedi’i recordio a’i chynhyrchu gan Charlie Francis sy’n fawr ei fri ac bydd yn cael ei rhyddhau yn gynnar yn 2009.
Yr Ysbrydoliaeth
Y Morgrug Deildorrol
Ysbrydoliaeth Circa Regna Tonat oedd y Morgrug Deildorrol yn oriel Hanes Natur yn Amgueddfa Genedleathol Caerdydd.
Maer morgrug yma yn torri dail o blanhigion a choed i dyfu ffwng yn fwyd iddynt. Maent yn enghraifft o 'Cydymddibyniaeth', lle mae'r morgrug a'r ffwng yn elwa y naill oddi wrth y llall.
Gwnaf morgrug amrywiol swyddi amrywiol. Ceir morgrug canolig sy'n chwilota; marchforgrug mawr; a morgrug llai sy'n gofalu am y nyth a'r gerddi ffwng.
Mae un frenhines yn cynhyrchu holl forgrug y nyth. Bydd yn byw am hyd at 17 mlynedd. Os bydd yn marw, bydd y nyth i gyd hefyd yn marw.
Yn y pen draw fydd y frenhines yn gynhyrchu morgrug gwryw a benyw sydd ag adenydd. Bydd rhein yn paru, a bydd y breninesau beichiog newydd yn cymryd darn o'r ffwng gyda nhw ac yn hedfan i ffwrdd i ddechrau eu nyth eu hunain. Bydd y gwrywod yn marw.

Dangos sylwadau






