Charlie Francis - Audere Est Facere
Enw: Audere Est Facere
Artistiad: Charlie Francis
Meithder: 18:34
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [25.5mb, MP3]
Am Charlie Francis

Mae Charlie Francis sy'n gynhyrchydd cerdd adnabyddus ymysg bandiau indie wedi cynhyrchu cerddoriaeth gan grwpiau fel REM, Robyn Hitchcock a llawer mwy.
Cafodd ei fagu yn Efrog, ble cafodd ei gyflwyno i Top of the Pops, sioe John Peel a chasgliad recordiau brawd ei ffrind gorau pan oedd yn ifanc. Canlyniad hyn oedd ei ddyhead ysgubol i ymwneud â cherddoriaeth boblogaidd.
Prynodd Charlie ei gitâr fas gyntaf pan oedd yn 14 oed, ac erbyn 17 oed dechreuodd ysgrifennu ei ganeuon a ffurfio ei fandiau ei hun. Mewn ymgais i ehangu ei orwelion, symudodd i Lundain pan oedd yn 19 oed er mwyn gwireddu ei freuddwydion. Cafodd ei flas cyntaf ar y busnes cerddoriaeth pan oedd yn chwarae cymeriad lliwgar o’r enw Patrik Fitzgerald, neu The Punk Poet, gan recordio sengl a theithio Prydain. Yn dilyn hyn treuliodd flwyddyn fel chwaraeydd bâs Toyah, yn teithio a recordio.
Penderfynodd y cerddor newid llwybr ar ôl ychydig o flynyddoedd er mwyn dilyn ei drywydd ei hun. Buodd yn gwneud gwaith sesiwn am ychydig tra ei fod yn gweithio ar ei fand ei hun The Lost Boys gan sicrhau o'r diwedd gytundeb mawr gydag MCA ym 1986.
Ar ôl treulio amser yn ysgrifennu a rhaglennu aeth Charlie yn ôl ati i weithio gyda bandiau ym 1990, yn gynhyrchydd a pheiriannydd tra ei fod o bryd i’w gilydd yn chwarae rhannau ar recordiau pobl eraill (allweddell fel arfer) – arferiad sy wedi parhau hyd heddiw.
Roedd cwrdd â Sean O’Hagan a High Llamas ym 1992 yn drobwynt pwysig yng ngyrfa Charlie. Arweiniodd hyn at gyd-gynhyrchu caneuon a ffurfiodd hanner yr albwm Santa Barbara. Mae’r berthynas hon wedi parhau hyd heddiw gyda nifer o recordiadau cyffrous a chreadigol.
Ym 1997 derbyniodd alwad oddi wrth y band byd enwog REM i weithio ar ei albwm nesaf. Ar ôl cwrdd â’r band yn Athens, Georgia, fe’i dewiswyd ar gyfer y swydd, a threuliodd amser cyfareddol a gwerthfawr gyda nhw ar yr albwm Up.
Yn 2003 gwireddwyd dymuniad hirdymor Charlie a'i wraig sef symud allan o Lundain i ddinas hyfryd Caerdydd. Ar ôl dod i nabod pobl ddymunol yn ystafelloedd ymarfer Musicbox, daethon nhw ynghyd i greu adnodd recordio diymhongar, yn unol â’r duedd heddiw o recordiau cyllideb isel ond effeithiol.
Heddiw maen nhw'n edrych am ffyrdd i ehangu heb eisiau troi'n fega-stiwdio hen ffasiwn ac yn cynhyrchu nifer o albymau a senglau amrywiol a gwych ar gyfer amryw o labeli.
Yr Ysbrydoliaeth

Mae Charlie Francis wedi ymateb i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gyda ‘Audere est Facere’, yn benodol y gwrthdaro rhwng y diwylliant cynhenid a'r un goresgynnol yn ystod geni Prydain Rufeinig.
Prydain – Britannia – oedd un o’r taleithiau olaf i’w hychwanegu at yr Ymerodraeth Brydeinig, a bu’n un o’r mwyaf trafferthus ohonynt. Goresgynnodd y Rhufeiniaid Brydain yn O.C. 43 â byddin o ryw 40,000 dyn.
Ar ôl glanio ar arfordir Caint, enillasant frwydr bwysig a buan y cyraeddasant Afon Tafwys. Buont yn aros i’r Ymerawdwr Claudius gyrraedd cyn gorymdeithio ar gadarnle’r Brythoniaid yng Nghaer Colun (Colchester) (Camulodunum), le ildiodd arweinwyr llwythau’r Brythoniaid. O fewn ychydig flynyddoedd yr oedd y dalaith newydd yn ymestyn dros y cyfan o dde-ddwyrain Prydain. Erbyn 48, yr oedd y lluoedd Rhufeinig wedi cyrraedd ffiniau presennol Cymru.
Yr oedd y ddau lwyth mwyaf nerthol yng Nghymru – y Silwriaid a’r Ordofigiaid– yn ffyrnig elyniaethus i’r Rhufeiniaid a bu brwydro chwyrn, am bron i dri degawd.
O dan yr Ymerawdwr Vespasian, arweinwyd yr Ail Leng Awgwstaidd i’w chaer newydd yng Nghaerllion i gwblhau trechu’r Silwriaid gan Julius Frontinus, rhaglaw’r dalaith o 74-77. In mid and north wales, the Ordovices were likewise subdued after campaigns by Frontinus and his successor Agricola in 78. Yng nghanolbarth a gogledd Cymru, darostyngwyd yr Ordofigiaid hefyd gan ymgyrchoedd Frontinus a’i olynydd Agricola yn 78.
Charlie Francis:
“Roeddwn i’n edrych am brosiect hwyliog i weithio arni ac yn ddyn o Efrog - tref Rufeinig - roeddwn i’n naturiol a diddordeb yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru a’i chasgliadau. Pwrpas fy narn o gerddoriaeth i - sy’n seiliedig ar un cord gan Miles Davies - yw ychwanegu at brofiad ymwelwyd i Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.”








Gadael sylw