Andy Wheddon
Enw: Yr ystlum lleiaf
Artistiad: The 2 Billies
Meithder: 4:18
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [9mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae Andy Wheddon yn artist recordio sy’n byw yn Brighton ac sydd wedi cynhyrchu celfyddyd sain ac electronica am nifer o flynyddoedd.
Ei gefndir mewn gwneud ffilmiau a thechnegau recordio maes ddarparodd y deunydd crai ar gyfer ei sŵn nodweddiadol organig, rhyfedd. Mae dylanwad Musique Concrete a Drum & Bass ar ei waith hefyd mewn mannau.
Mae Andy’n defnyddio recordiadau o drychfilod yn ei waith yn aml. Crëwyd y darn hwn, Leafhoppers, yn gyfan gwbl o synau sboncwyr y dail a recordiwyd gan adran Entymoleg Amgueddfa Cymru.
Defnyddiodd Andy sawl techneg prosesu sain i wella, ymestyn, aflunio a gwyrdroi rhai o’r synau gwreiddiol i greu’r darn hwn.
Bydd EP Andy, ‘Andy Wheddon & Friends’, yn cael ei ryddhau yn Awst ar label Concrete Plastic o Brighton (concreteplastic.co.uk). Bydd clawr yr albwm yn cynnwys ffotograff o gleren a dynnwyd gan James Turner o’r Amgueddfa.
Ysbrydoliaeth
.jpg)
Mae sboncwyr y dail a sboncwyr planhigion ymysg y grŵp mwyaf niferus o bryfed. Maent i gyd yn bwydo ar blanhigion drwy ddefnyddio rhannau o’u cegau sy’n medru trywanu a sugno, ac mae nifer ohonynt yn bla i gnydau gan eu bod yn lledaenu afiechydon wrth fwydo.
Y cnydau sy’n dioddef fwyaf yn sgil yr afiechydon a gludir gan sboncwyr planhigion a sboncwyr y dail yw’r rhai sy’n effeithio ar ffermwyr ymgynhaliol yn y trydydd byd, fel cnau coco, reis, tatws, indrawn a chansenni siwgr.
Nod y project ymchwil 3 mlynedd sydd ar y gweill yn Amgueddfa Cymru yw darparu canllaw cynhwysfawr a hygyrch ar y we i fectorau bacteria ac afiechydon firws o ffytoplasma sboncwyr y dail a sboncwyr planhigion, wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol yn y maes a gweithwyr yn y trydydd byd sydd am gael gwybodaeth gywir ar sut i’w hadnabod. Mae gwaith ymchwil ychwanegol i grïoedd rhai aelodau o’r grŵp hwn o bryfed, fel y genws Oncopsis, hefyd yn cael ei gyflawni ar y cyd ag ymchwilwyr o’r Museum Fur Naturkunde, Berlin.
Mae sboncwyr y dail a sboncwyr planhigion oll yn cynhyrchu ac yn trosglwyddo signalau acwstig swbstrad mewn cyferbyniaeth â chaneuon cryf y sioncod. Fel arfer mae crïoedd sboncwyr y dail a’r sboncwyr planhigion yn cynnwys pylsiau gyda phatrymau nodweddiadol o fodyliad osgled. Trosglwyddir y dirgryniadau i swbstrad y planhigyn drwy’r traed. Un o brif swyddogaethau’r caneuon hyn yw denu a chanfod cymar i atgynhyrchu.
Mae’n anodd adnabod sboncwyr y dail Oncopsis ar goed bedw. Dangosodd astudiaethau (gan ddefnyddio technegau morffolegol ac acwstig) fod y rhywogaeth Oncopsis flavicollis yn cynnwys o leiaf tair rhywogaeth sibling. Hyd yma nid oes unrhyw waith tacsonomaidd wedi cael ei wneud ar y rhywogaethau sibling hyn, a does dim gwybodaeth ar gael am ddosbarthiad a chaneuon y poblogaethau sydd yn Ewrop. Mae canlyniadau diweddar wedi profi fod y tair math o rywogaeth O. flavicollis i’w cael yn sawl rhan o Ewrop (Ffrainc, yr Eidal, Rwsia, Sbaen, Y Swistir a’r DU).

Dangos sylwadau





