Alex Dingley
Enw: One Size Fits All
Artistiad: Alex Dingley
Meithder: 4:59
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [4.8mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae Alex Dingley yn dod o Lansteffan yn Sir Gaerfyrddin ac yn gyn-aelod o'r grŵp Cymraeg Texas Radio Band. Gafodd ei albwm gyntaf 'I Lost My Honey In The Grass' ei recordio gan Mr Huw yng nghysgod yr Wyddfa yn ystod gwanwyn 2007, ar mandate oedd: 'being to provide an antidote to overproduced, generic and cynical music'. Gafodd yr albwm ei recordio gyda moeseg DIY a synnau ar y cyd yn cynnwys samplau dictaphone, blenders a hoovers (yn ogystal ag offer amrywiol eraill o'r cartref).
Ffurfiwyd The Alex Dingley Band yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac mae'n cynnwys starlet Cymru Swci Boscawen, gitarydd flaen Rhys Martin (Plant Duw), yr artist o Gaerdydd Nigel Bowles a Rod Stewart doppelgänger Alun 'Jinx' Jenkins. Mae nhw wedi cefnogi artisitiaid amrywiol megus Dirty Pretty Things a Billy Bragg a gafodd eu sain ei ddisgrifio fel 'Jagged Folktronic Rock' (NME) a 'Ramshackle Country Pop' (Huw Stephens).
Recordiwyd a chymysgwyd y trac a ddangosir 'One Size Fits All' yn rhannol ar y safle yn yr Amgueddfa Wlan Drefach ac yn rhannol mewn gofod yn atig y chynhyrchydd o Gaerfyrddin Recall. Recall yw Iwan Morgan. I ategu mae e'n "A purveyor of dense music, in thrall to old echo boxes and slightly 'off/skewed' productions, heavily sample based yet full of live instruments ." Ymunodd a'r band arloeswyr sŵn electronig pop Zabrinski, ac aeth ymlaen i gynhyrchu 3 albwm gyda'r band, teithio o amgylch Prydain a ysgrifennu sgôr i ffilm Eidalaidd. Ers iddo cadw at eu stiwdio yn yr atig yng Nghaerfyrddin dechreuodd gynhyrchu artistiaid eraill yn 2005, gan ddechrau gwaith ar record unigol gyntaf Richard James (Gorky's Zygotic Mynci) "The Seven Sleepers Den", a hefyd albwm Texas Radio Band "Gavin". Fel a ddywedodd Scott Walker: "I am definitely not a recluse.....I am low key".
Mae mwy o wybodaeth ar y Alex Dingley Band i'w gweld ar: www.myspace.com/alexdingley, tra ma enghreifftiau pellach o gwaith Recall yn medru cael ei fwynhau ar: http://www.myspace.com/recallmusic.
Aelodau The Alex Dingley Band:
Mared (Swci) Lenny: Llais/Allweddellau
Alex Dingley: Llais/Gitâr
Alun (Jinx) Jenkins: Drymiau
Nigel Bowles: Gitâr fas
Rhys Martin: Gitâr flaen
Ysbrydoliaeth

Ysbrydolwyd y gân hon gan ddiwydiant gwlân Cymru ac Amgueddfa Wlan Cymru yn Nrefach-Felindre.
Diwydiant Cymreig iawn
Ddiwedd y 1800au ac ar ddechrau’r ganrif ddilynol, y diwydiant gwlân oedd yn cynnal y gymdeithas wledig Gymreig.
Melin Cambrian, yn Dre-fach Felindre yn Sir Gaerfyrddin, oedd un o’r melinau gwlân mwyaf yng ngorllewin Cymru. Wedi iddynt fod yn cynnal oriel fechan yn y Felin ers canol y saithdegau, ym 1984 prynodd yr Amgueddfa’r safle yn ei gyfanrwydd i greu amgueddfa genedlaethol fyddai’n adrodd hanes y diwydiant a’r bobl fu ynghlwm ag ef.
Erbyn i hen Felinau Cambrian ddod yn atyniad i ymwelwyr, roedd iddo eisoes hanes maith ac anrhydeddus o gyflogi ac o gynhyrchu brethyn.
Diwydiant gwlân Cymru, a ddaeth i fod gyda’r mynachod Sistersaidd, oedd un o gyflogwyr pwysicaf y wlad erbyn y drydedd ganrif ar ddeg. Ond nid oedd hyn ond megis dechrau. Dyma fyddai’r diwydiant Cymreig mwyaf cyffredin.
Dechreuodd yr ehangu mawr gyda dyfodiad y gwŷdd peiriannol ym 1850. Yn Nyffryn Teifi yng ngorllewin Cymru yr oedd y nifer fwyaf o felinau gwlân y wlad, gydag un ar hugain o ffatrïoedd yn cael eu codi yn yr ardal o fewn pum milltir i Dre-fach Felindre rhwng 1860 a diwedd y ganrif. Roedd marchnad barod i’r fasnach yn ne Cymru wrth i’r glofeydd a’r gweithiau dur ffynnu.
Roedd ffatrïoedd Dyffryn Teifi yn cynhyrchu gwlanen fain ar gyfer crysau. Ymysg y cynhyrchion eraill yr oedd blancedi, brethyn ac edafedd. Byddent fel arfer yn cyflogi rhwng hanner cant a 100 o bobl, ac wedi eu lleoli yn agos at ffyrdd neu reilffyrdd.
Yn Dre-fach Felindre ym 1902 y sefydlwyd Melin Cambria gyntaf. Fe’i codwyd gan David Lewis ar safle gweithdy gwehyddu bychan oedd yn cael ei yrru â dŵr yn Noldywyll, ar dir ar rent gan Stâd Llysnewydd. Hanai o deulu adnabyddus ac uchel ei barch yn lleol, a oedd eisoes yn berchen ar lawer o felinau mawr Dyffryn Teifi.
Heddiw, mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre yn dwyn i gof sut yr arferai pobl ddibynnu ar nyddu a gwehyddu am eu bywoliaeth, ac yn arddangos casgliadau cenedlaethol sy’n ymwneud â’r diwydiant.








Gadael sylw