The 2 Billies
Enw: Yr ystlum lleiaf
Artistiad: The 2 Billies
Meithder: 4:18
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [12.3mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae'r 2 Billies yn gasgliad o gerddorion sy'n dod o wahanol lefydd a chanddynt swyddi llawn amser yn ogystal â chwarae mewn band.
Ers cael ei sefydlu mewn gardd yn Norfolk mae'r band wedi newid ei gerddorion yn gyson gan gynnwys adeg yn y nawdegau hwyr pan oedd y band yn perfformio o gwbl.
Ymadawodd sawl aelod â'r band i ennill bywoliaeth mewn meysydd megis archwilio'r arctig, bod yn brifathro, darparu'r sgrechfeydd ar gemau cyfrifiadurol a gweithio i Amgueddfa Cymru.
Ailgyneuwyd tân y band gan ei chwaraeydd bas gwreiddiol a'r pethau mae'n eu cadw yn ei sied. Erbyn hyn mae gan y 2 Billies agwedd ffwrdd-â-hi at gynhyrchu caneuon cartref gan ddilyn rysáit gyfrinachol y teulu.
Cafodd y 2 Billies ei ysbrydoli gan alwadau'r corystlum sydd i'w clywed yn y coed yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Meddai Trevor Bailey o'r 2 Billies am y trac:
“Pan fo'r ystlumod yn oer ac yn llonydd maent yn mynd yn swrth. Felly ychwanegais chwyrniadau bach rhyfedd ar ddechrau'r trac.
Recordiais alwadau ecoleoli'r corystlum gydag ystlumleolwr sy'n eu newid i seinamleddau is fel gallwn eu clywed. Gall ystlumod fapio'r byd o'u cwmpas a dal pryfed yn y tywyllwch drwy wrando ar yr atseiniau i'w galwadau. Maent yn newid o amleddau isel i uchel ac yn ôl a cheisiwn efelychu hynny yn y cefndir ar y gitâr. Hanner ffordd drwy'r trac mae'r ystlum yn hedfan i'r ogof i fwydo'r ystlum bach â phryfed.
Ond un ystlum bach mae pâr o gorystlumod yn ei fagu bob blwyddyn. Mae galwad y bychan yn unigryw fel gall y rhieni ei adnabod ymhlith y cannoedd o'r rhai eraill yn y nythfa. Mae'n well gan gorystlumod nythu mewn coed ac adeiladau ond roedd angen i mi gael esgus i ychwanegu synau o'r afon roedd gennyf wrth law a chynyddu'r sŵn yn sylweddol.”
Ysbrydoliaeth

Mae Sain Ffagan yn gartref i rai o famaliaid mwyaf prin Prydain gan gynnwys ystlumod.
Mae'r coed a'r adeiladau amaethyddol traddodiadol yn edrych yn wych ac yn cynnig cartrefi perffaith i ystlumod.
Corystlumod yw'r ystlumod rydych yn debycach o'u gweld ym Mhrydain. Maent yn hedfan yn gyflym a herciog wrth hela a llyncu pryfed bach yn yr awyr. Gall un corystlum fwyta hyd at 3,000 o bryfed y noson.
Mae'r nos yn llawn o alwadau'r ystlumod ond dim ond gydag ystlumleolwr arbenigol gallwch eu clywed. Galwad corystlum yw'r sŵn rhyfedd megis dŵr yn diferu sydd ar drac y 2 Billies. Mae Sain Ffagan yn cynnal teithiau ac arolygon ystlumod gyda'r nos yn aml a recordiodd Trevor alwad y corystlum pan ddaeth ar un ohonynt.
Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau ystlumod Prydain mewn perygl neu dan fygythiad difodiant. Mae nifer y corystlumod wedi gostwng mwy na thebyg fel canlyniad i arferion ffermio modern. Oherwydd eu dibyniaeth ar adeiladau maent yn dioddef fel canlyniad i waith adnewyddu, cemegolion gwenwynig i drin pren a chael eu gyrru i ffwrdd gan bobl.
Mae Amgueddfa'n gweithio â Grŵp Ystlumod Caerdydd (www.sewbrec.org.uk/cardiff-bat-group.page) a'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod (www.bats.org.uk) i hybu ac amddiffyn ystlumod.
Am fwy o fanylion am deithiau ystlumod i'r teulu neu i gynnig help â'n harolwg edrychwch ar dudalen Archwilio'n coedwigoedd dros yr haf.
Gwelir y canlynol yn rheolaidd yn Sain Ffagan: yr ystlum trwyn pedol lleiaf, y corystlum, yr ystlum clustiog brown, ystlum y dŵr, ystlum Natterer a'r ystlum cyffredin.

Dangos sylwadau