Casgliad y Chwiorydd Davies
[delwedd: Paul Cézanne (1839-1906); Bywyd llonydd gyda thebot, 1902-1906]
Paul Cézanne
Bywyd llonydd gyda thebot
[delwedd: Vincent van Gogh (1853-1890); Glaw - Auvers, 1890]
Vincent van Gogh
Glaw - Auvers
[delwedd: Camille Pissarro (1830-1903); Pont Neuf, effaith eira, 2il gyfres, 1902]
Camille Pissarro
Pont Neuf, effaith eira, 2il gyfres
[delwedd: Jean François Millet (1814-1875); Y teulu gwerinol]
Jean François Millet
Y teulu gwerinol
[delwedd: Gweithdy Sandro Botticelli (1447-1510); Y Forwyn a Phlentyn gyda Phomgranad, c.1485]
Gweithdy Sandro Botticelli
Y Forwyn a Phlentyn gyda Phomgranad
[delwedd: Honoré Daumier (1808-1879); Don Quixote yn Darllen, 1865-7]
Honoré Daumier
Don Quixote yn Darllen
[delwedd: ]
Honoré Daumier
Don Quixote yn Darllen
Casglodd Gwendoline Davies (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963), dwy chwaer ddi-briod o ganolbarth Cymru, un o gasgliadau celf pwysicaf Prydain yn yr ugeinfed ganrif. Gyda'i gilydd, cymynnodd y ddwy 260 o weithiau celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru ym 1951 a 1963, gan drawsnewid cymeriad, ansawdd ac ystod ei chasgliad celf yn llwyr.
Ŵyresau David Davies Llandinam oedd Gwendoline a Margaret Davies; roedd ef wedi llwyddo drwy ei ymdrechion ei hun i wneud arian mawr drwy perchnogaeth pyllau glo, rheilffyrdd a dociau. Gan iddynt gael magwraeth lem yn y traddodiad Anghydffurfiol Cymreig gwnaethant barhau i fod yn ddirwestwyr ac i gadw'r Sabath. Roeddent yn gymwynaswyr mawr i elusennau a sefydliadau diwylliannol yng Nghymru ac ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog yn Sir Drefaldwyn, a daeth y lle hwnnw yn ganolfan i'r celfyddydau creadigol.
Er nad oeddent wedi etifeddu unrhyw draddodiad o werthfawrogi celfyddyd, o 1908 ymlaen daeth y ddwy chwaer yn gasglwyr celf brwd. Roedd eu cynghorwyr yn y maes yn cynnwys Hugh Blaker, Curadur Amgueddfa Holburne, Caerfaddon, a brawd eu hathrawes cartref; John Witcombe, Curadur Oriel Gelf Victoria, Caerfaddon, a'u delwyr. O dan gyfarwyddyd y rhain, ar y dechrau ffafriai y chwiorydd artistiaid fel Turner, Corot a Millet. Anogodd Blaker hwy i brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Monet a Rodin ac erbyn 1924 roeddent wedi datblygu'r casgliad mwyaf a phwysicaf o weithiau yr Argraffiadwyr Ffrengig a'r ôl-argraffiadwyr yn y wlad. Gall ymwelwyr â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd weld gwaith enwog Renoir La Parisienne, Eglwys Gadeiriol Rouen, Monet, tri o'i dirluniau o Fenis, Y Gusan gan Rodin a gweithiau eraill gan Manet a Pissarro. Disgrifiwyd hyn yn ddiweddar yn House and Garden fel 'yr arddangosfa fwyaf hudol ym Mhrydain o bosib'. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gogoniannau eraill fel tri o baentiadau lilïau'r dŵr Monet, tri o weithiau Cézanne, Glaw - Auvers gan Van Gogh a nifer o weithiau gan Millet, Daumier a Carrière.
Caiff y chwiorydd Davies eu hadnabod orau am baentiadau yr Argraffiadwyr a'r ôl-argraffiadwyr. Serch hynny gellir gweld gweithiau a brynwyd ganddynt ym mhob un o'n orielau bron. Mae eu casgliad hefyd yn cwmpasu dau ddarlun o weithdy Botticelli, Tynnu Dillad Crist gan El Greco, Golygfa yn Windsor Great Park gan Richard Wilson, pum darlun olew gan JMW Turner a nifer lluosog o weithiau gan Augustus John.
Casglodd y chwiorydd hefyd weithiau ar bapur. Dyfrlun ym 1906 yw'r cofnod cyntaf sydd ohonynt yn prynu gwaith celf. Casglwyd nifer mawr o ddarluniau a dyfrluniau Ffrengig yn cynnwys enghreifftiau gwych o waith Cézanne, Daumier, Puvis de Chavannes, Signac a Pissarro. Roedd ganddynt ddiddordeb arbennig hefyd yn nyfrluniau Turner, gan dalu y swm uchel o £1,520 am olygfa o Wurzburg ym 1919. Roedd ganddynt un gwaith gan Blake a nifer o olygfeydd topograffaidd gan Moses Griffith, yr 'arlunydd o was', ynghyd ag enghreifftiau o'r 20fed ganrif gan Augustus John, Josef Herman, Oskar Kokoschka, Stanley Spencer, Percy Wyndham Lewis, Frank Brangwyn, Eric Gill a JD Innes.
Cysylltiedig
Sain: Podcast #1: Atgofion llafar o'r Chwiorydd Davies
8 Tachwedd 2007Erthyglau: Diwydiant, diwylliant - cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru
29 Gorffenaf 2007Erthyglau: Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies
29 Gorffenaf 2007Erthyglau: Y Chwiorydd Davies a'r Rhyfel Mawr
29 Gorffenaf 2007Erthyglau: Gregynog: Celf a Cherddoriaeth i Gymru
29 Gorffenaf 2007Erthyglau: Gwasg Gregynog
29 Gorffenaf 2007