Casgliad Williams-Wynn

Braslun o Syr Watkin Williams-Wynn

Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig, Thomas Apperley a'r Capten Edward Hamilton

Charlotte Grenville, gwraig Syr Watkin Williams


Hwyrach mai Syr Watkin Williams-Wynn (1749-89) oedd y noddwr celfyddydau mwyaf a gynhyrchwyd erioed gan Gymru. Roedd yn gasglwr darluniau yr hen feistri, a chomisiynodd waith gan lawer o artistiaid a cherflunwyr. Roedd yn noddwr penseiri, cynllunwyr a garddwyr, roedd ganddo gariad angerddol at gerddoriaeth, ac roedd yn caru'r theatr. Roedd hefyd yn ben ar deulu bonedd o bwys, ac yn berchen ar stad o dros 100,000 erw yng Ngogledd Cymru a Swydd Amwythig. Ei brif gartref oedd Wynnstay, ger Rhiwabon. Ym 1768-9 teithiodd yn Ffrainc, Y Swistir ac yn yr Eidal, gan wario'n drwm ar gelfyddyd. Yn Rhufain comisiynodd bortread mawr o'i hunan a'i gyfeillion gan Pompeo Batoni. Priododd ddwywaith - bu farw ei wraig gyntaf Henrietta Somerset, merch i Ddug Beaufort, yn ifanc, ond gallwch weld ei set doiled arian gilt harddwych, a wnaed gan of aur y brenin ar y pryd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Comisiynodd Syr Watkin nifer o luniau gan Syr Joshua Reynolds , Sylfaenydd Lywydd yr Academi Frenhinol. Mae'r rhain yn cynnwys portread ysblennydd o'i ail wraig Charlotte, mewn gwisg Dwrcaidd, gyda rhai o'u plant, a baentiwyd tua 1778. Hefyd archebodd waith gan Richard Wilson, y paentiwr tirlun a anwyd yng Nghymru, a chynhwysodd yn ei gasgliad bortread o Wilson gan Anton Raphael Mengs oedd wedi ymsefydlu yn Rhufain, a brynwyd gan yr Amgueddfa oddi wrth Wynnstay ym 1947.
Treuliodd Syr Watkin ran o'i amser yn Llundain, lle y cyflogodd Robert Adam, y pensaer clasurol, i godi tŵ iddo yn Sgwâr St James ym 1772-5. Seiliwyd enwogrwydd Adam ar ei allu i gydlynu holl weddau adeilad, a chynlluniodd ddrychau, carpedi a dodrefn, a hyd yn oed setiau cinio arian i'w noddwr o Gymro brwd a chyfoethog. Y darn mwyaf o ddodrefn Adam o'r tŷ yw'r casyn a gynlluniodd ar gyfer organ siambr fawr John Snetzler. Mae hwn mewn cyflwr i'w ddefnyddio, ac fe'i defnyddir yn reolaidd ar gyfer datganiadau. Mae'r portreadau sy'n cael eu harddangos o John Parry, telynor Syr Watkin yn gyfrwng pellach i'n hatgoffa o'i gariad angerddol tuag at gerddoriaeth.
Er bod Syr Watkin yn ddiletant aristocrataidd - mewn gwleidyddiaeth, ynghyd ag yn ei fywyd diwylliannol - rhoddodd gyfle i ddwsinau o benseiri, arlunwyr a cherddorion i gynhyrchu rhai o'i gweithiau gorau.
Cysylltiedig
Erthyglau: Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru
26 Gorffenaf 2007Erthyglau: Siwt frodiog ysblennydd o'r 1770au
19 Chwefror 2007Erthyglau: Cwpan o aur Cymru solet
19 Chwefror 2007Erthyglau: Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn
19 Chwefror 2007







