Benthyciadau o'r casgliadau
[delwedd: Y Ferch o Baris]
Pierre-Auguste Renoir
Y Ferch o Baris
Rydym ni'n aml yn benthyca gweithiau celf i arddangosfeydd dros dro yn y DU a thramor. Rydym ni'n croesawu ceisiadau oddi wrth amgueddfeydd ac orielau yng Nghymru yn arbennig. Caiff ceisiadau eu cyfeirio at weithgor ymgynghorol allanol sy'n cwrdd ddwywaith y flwyddyn, a mae ceisiadau'n destun amodau safonol. Nid ydym ni'n codi ffi gweinyddu ar gyfer benthyciadau yn y DU, ond disgwylir i fenthycwyr dalu'r costau sydd ynghlwm wrth baratoi, pacio a chludo (a all gynnwys costau ein cludwr ni).
I drafod benthyciad posibl o'r casgliad, cysylltwch â'r Ceidwad Celfyddyd, neu'r curadur pwnc. Fe gewch chi restr gryno o'n peintiadau olew a cherfluniau ar y wefan hon, ond mae yna gasgliad mwy o lawer o weithiau dyfrlliw, darluniau a phrintiau, chrochenwaith, gwaith metel a gwydr. Gall Rheolwr Casgliadau gynghori ar y weithdrefn a'r costau posibl. Fodd bynnag, dylid cyflwyno ceisiadau ffurfiol am fenthyciadau i'r Cyfarwyddwr Cyffredinol.
Mae gweithiau celf hefyd yn cael eu benthyca i amgueddfeydd ar sail tymor hwy (am hyd at dair blynedd gyda'r posibilrwydd o adnewyddu) ac weithiau i gyrff cyhoeddus eraill, ar yr amod bod y rhain yn cynnig mynediad da i'r cyhoedd a lefel resymol o ddiogelwch a rheolaeth amgylcheddol.
Am mwy o wybodaeth, gwelwch ein Polisïau Rheolaeth Casgliadau.
[delwedd: Y Lili Ddŵr]
Claude Monet
Y Lili Ddŵr