Casgliadau Celf Arlein
Chwilio
Dewis cyflym
Ynglŷn â'r catalog
Mae’r catalog hwn yn cynnwys yr holl baentiadau a cherfluniau yng nghasgliadau Adran Celf Amgueddfa Cymru, a’r gweithiau ar fenthyciad tymor hir o Ymddiriedolaeth Derek Williams. Hefyd yn rhan o’r casgliad mae tua tri deg mil o ddarluniau, lluniau dyfrlliw, printiau a ffotograffau a tua un fil ar ddeg o weithiau celf gymwysedig. Am ragor o wybodaeth am y gweithiau yn y casgliadau cysylltwch â Celf neu Printiau a Darluniau. Amgueddfa Cymru sydd a hawlfraint pob un o’r delweddau yn y catalog hwn. Am ragor o wybodaeth am drwyddedu delweddau, cysylltwch â Kay Kays. Caiff delweddau eraill eu hychwanegu pan fyddant ar gael.
Caiff Celf Ar-lein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig. Byddem yn gwerthfawrogi’ch adborth am Celf Ar-lein, ac unrhyw wybodaeth newydd am weithiau yn y casgliad.
