Casgliadau Celf Arlein
Ida John (née Nettleship) (1877-1907)
JOHN, Augustus (1878 - 1961)

Dyddiad: 1901
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 152.4 x 102.1 cm
Derbyniwyd: 1972; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 168
Peintiwyd y portread hwn o Ida (c.1877-1907), gwraig yr arlunydd, tua 1901 ac mae'n debyg ei fod yn ei dangos pan oedd yn disgwyl ei phlentyn cyntaf, David John a aned ym mis Ionawr 1902. Cafodd Ida bedwar plentyn arall a bu farw o'r dwymyn a llid y ffedog ar enedigaeth y plentyn olaf. Mae'r gwaith brws bywiog yn dangos dyled John i Frans Hals ac Edouard Manet. Mae'n debyg fod Ida wedi ei pheintio fel sipsi yma .
Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw