Casgliadau Celf Arlein
Dorelia McNeill yn yr Ardd yn Alderney Manor [Dorelia McNeill in the Garden at Alderney Manor]
JOHN, Augustus (1878 - 1961)

Dyddiad: 1911
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 201.0 x 101.6 cm
Derbyniwyd: 1962; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping
Rhif Derbynoli: NMW A 163
Roedd Augustus John a Dorelia McNeill yn byw yn Alderney Manor, Dorset, o Awst 1911 hyd Fawrth 1927. Daeth y tŷ a'r gerddi yno yn fynegiant huawdl o bersonoliaeth Dorelia, a byddai crwydriaid o bob math yn cael eu hannog i wneud y defnydd a fynnent o'r gerddi. Peintiwyd y portread hwn o Dorelia yn y flwyddyn pan symudodd y teulu i'r tŷ, yn ystod haf llachar, ac mae'n ddathliad o amgylchedd newydd y teulu. Mae'r mannau gwastad o liw, y troeon llym a'r cefndir tawel yn adlewyrchu pa mor gyfarwydd oedd yr arlunydd â'r Fauves, 'bwystfilod gwyllt' peintio Ffrengig cyfoes fel y'u gelwid.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 14
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw