Casgliadau Celf Arlein
Dylan Thomas (1914-1953)
JANES, Alfred (1911 - 1999)

Dyddiad: 1934
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 40.6 x 30.5 cm
Derbyniwyd: 1935; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2641
Cadwai rhieni Alfred Janes siop ffrwythau a blodau yn Abertawe, a bu'n hyfforddi yn yr Ysgol Gelf yno ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol. Roedd yn gyfaill i Dylan Thomas, ac yn un o'r cylch oedd yn mynychu'r Kardomah Cafè, Abertawe. Peintiwyd y darlun hwn yn Ffordd Coleherne ym 1934 ac fe'i prynwyd gan yr amgueddfa yn ystod y flwyddyn ganlynol. Yn ystod y cyfnod hwn defnyddiai Janes y dechneg o wneud toriad llinellol yn arwynebedd y llun gyda chyllell boced i roi mwy o ffurfioldeb i'r peintiad, a gwneud yr wyneb yn fwy amlwg.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 5
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw