Casgliadau Celf Arlein
Parc gydag Alarch ac Adar Eraill
HONDECOETER, Melchior d' (1636 - 1695)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 213.0 x 213.0 cm
Derbyniwyd: 1919; Cymynrodd; Emily Talbot
Rhif Derbynoli: NMW A 2032
Mae hwn yn un o chwe chynfas gan y peintiwr o Antwerp, Melchior d'Hondecoter, a fu'n crogi yng nghartref Emily Charlotte, merch C.R.M. Talbot (1803-90) o Abaty Margam a Chastell Penrhys yn Llundain. Mae'n darlunio parc gwledig gydag adar o flaen pistyll a theras addurnedig gyda cherfluniau a ffigyrau. Roedd Hondecoeter yn arbenigo mewn cynfasau mawr addurnol llawn adar byw. Byddai’n peintio darluniau hynod o real o adar domestig ac egsotig, gan bwysleisio prydferthwch eu lliwiau a’u gweadau. Yma, gwelwn adar Ewropeaidd wrth ymyl paun, twrci o Ogledd America a garan goronog yr Affrig o flaen ffynnon ar deras addurnol. Defnyddiwyd darluniau o’r fath i addurno plastai noddwyr cefnog yr Iseldiroedd.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw