Casgliadau Celf Arlein
Llun Sgwrs y Teulu Jones
HOGARTH, William (1697 - 1764)

Dyddiad: 1730
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 72.0 x 91.8 cm
Derbyniwyd: 1996; Prynwyd; Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd
Rhif Derbynoli: NMW A 3978
Cafodd y gwaith hwn ei gomisiynu ym 1730 gan Robert Jones (1706-42) o Gastell Ffwl-y-mwn ym Morgannwg. Ef sy'n sefyll ar y dde, gyda'i chwiorydd Mary ac Elizabeth a'i frawd ieuengaf Oliver. Gwelir ei fam weddw Mary mewn glas tywyll gyda'i chi sbaniel. Mae'r bachgen gwladaidd sy'n ceisio cael rheolaeth ar y mwnci yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r grŵp teuluol addurniadol. Jones oedd Siryf Morgannwg ym 1729 a daeth yn gyfaill i John Wesley. Mae cyfansoddiad anffurfiol Hogarth a'i driniaeth gain i'w priodoli i Phillip Mercier, peintiwr llys i Frederick Tywysog Cymru.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw