Casgliadau Celf Arlein
Te Parti Plant [A Children's Tea Party]
HOGARTH, William (1697 - 1764)

Dyddiad: 1730
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 64.3 x 76.5 cm
Derbyniwyd: 1988; Rhodd; Derbyniwyd gan Lywodraeth E.M. yn lle treth etifeddiaeth
Rhif Derbynoli: NMW A 94
Mae'r cyfansoddiad hwn yn darlunio'r un plant ag yn y darlun sy'n gymar iddo, ond bod y bachgen hynaf yn absennol. Mae'r golofn ddrylliedig y tu ôl i'r bachgen sy'n chwarae'r drwm, a'r drych sydd yn nwylo'i chwaer, yn arwyddion o falchder a dirywiad. Ar y dde, mae sbaniel yn dymchwel y bwrdd te, lle mae'r ddwy ferch hynaf a'u dol yn eistedd. Mae'n bosib fod y delweddau hyn, a'r torch o flodau o gwmpas yr wrn, sy'n ein hatgoffa o wrn gladdu, yn awgrymu bod aelod o'r teulu wedi marw.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw