Casgliadau Celf Arlein
John Owen AS (bu f. 1754) [John Owen MP (d.1754)]
HIGHMORE, Joseph (1692 - 1780)

Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 124.2 x 98.7 cm
Derbyniwyd: 1963; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 489
Mab i gyfreithiwr oedd John Owen (c.1702-54) o Brysaeddfed, Môn, a daeth yn AS dros Fôn ym 1741. Bu cost ei ymgyrch yn ormod iddo. Gwrthwynebai teulu Bulkeley, teulu cyfoethog lleol, i gychwyn, yna troes i'w cefnogi o 1747 ymlaen gan ennill y sedd i Fiwmares. Roedd Highmore, un o brif bortreadwyr teyrnasiad Siôr II, yn arbenigo ar bortreadau bywiog, naturiol a apeliai at y dosbarth canol cynyddol gefnog.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 4
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw