Casgliadau Celf Arlein
Cerflun Hirgrwn (Delos) [Oval Sculpture (Delos)]
HEPWORTH, Barbara (1903 - 1975)

Dyddiad: 1955
Cyfrwng: pren guarea persawrus gyda chafnau wedi eu peintio
Maint: 85.8 x 122.0 cm
Derbyniwyd: 1982; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2416
Priododd Barbara Hepworth â Ben Nicholson ym 1932 ac roedd wedi ymsefydlu fel arlunydd Haniaethol digyfaddawd erbyn 1950. Ym 1954-5 cerfiodd nifer o gerfluniau haniaethol gyda theiliau Groegaidd o lwyth o ddwy dunnell ar bymtheg o bren caled o Nigeria. Mae'r rhain ymhlith ei gweithiau mwyaf urddasol a thelynegol, a chawsant eu hysbrydoli gan dirwedd a hynafiaethau Gwlad Groeg. Delos yw safle ogof Apollo a hefyd yr ynys y mae'r Cyclades yn gorwedd ol hamgylch ar ffurf cylch hirgrwn.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:
Oriel 12
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, lefel 4
Grisiau i fyny
Grisiau i lawr
Lifft

Gadael sylw